CymraegParhewch â'ch gweithgareddau Eco-Sgolion Eco-Sgolion Adref Amdanom ni Pwy ydym ni Ein heffaith Ein tîm Manylion staff Ein Hymddiriedolwyr Ein Llysgenhadon Ein Prif Weithredwr Ein maniffesto Ein hanes Ein partneriaid Cysylltiadau rhyngwladol Swyddi gwag Ein gwaith Polisi ac ymchwil Problemau a’r hyn yr ydym yn ei wneud Arolygon Glendid Strydoedd Ein hymagwedd Gweithredu Cymundeol Hybiau codi sbwriel Ymunwch a grŵp cymunedol Yswiriant grwpiau cymunedol Addysg Eco-Sgolion Eco-Academi Gohebyddion Ifanc (YRE) Gwobrau Y Faner Werdd ar gyfer Parciau Gwobrau Arfordir 'Goriad Gwyrdd Cadwraeth Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Y Goedwig Hir Pysgodyn Melyn Ble rydym yn gweithio Newyddion & digwyddiadau Newyddion Digwyddiadau Ein gwasanaethau Rhwygo papur Ailgylchu TG Eco-Academi Y gwasanaethau eraill Mapio GIS Gwasanaethau amgylcheddol Cefnogwch ni Gwirfoddolwch gyda ni Rhoi Codi arian Lleihau llygredd plastig Cymorth busnes Cefnogwch ni wrth siopa Giveacar Our work Education Amdano Cystadleuaeth YRE Mae Gohebwyr Ifanc yr Amgylchedd (YRE) yn gystadleuaeth ryngwladol sydd yn gwahodd pobl ifanc i siarad am faterion amgylcheddol sydd yn agos at eu calon trwy ohebiaeth, ffotograffiaeth neu ffilm ymchwiliol. Yn y flwyddyn academaidd 2020-2021, bydd YRE yng Nghymru yn canolbwyntio ar ‘Lleihau Gwastraff Plastig’. Mae gwastraff plastig yn broblem enfawr yng Nghymru ac mae angen i ni i gyd ddeall yr effaith y mae'n ei gael ar yr amgylchedd a'r hyn y gallwn ni i gyd ei wneud i leihau'r gwastraff hwn. Dewiswch fater sydd yn bwysig i chi, gallai hyn amrywio o fater cyfredol sbwriel morol a’r niwed y mae’n ei achosi i’n bywyd gwyllt, i dipio anghyfreithlon a’i effeithiau ar falchder cymunedol. Dylech gynnwys y sefydliad yr ydych yn perthyn iddo trwy drefnu digwyddiad ymarferol neu ddiwrnod gweithredu cymunedol neu godi ymwybyddiaeth ynghylch y mater dewisol Byddwch yn wreiddiol, ymchwiliwch yn drwyadl i’ch pwnc – siaradwch â phobl berthnasol, gofynnwch am ddyfyniadau, gwnewch ef yn real. Adroddwch yn ei gylch ac awgrymwch atebion i’ch mater Rhannwch eich ymchwiliadau gyda phawb a phob un trwy 3 chyfrwng o leiaf Mae Gohebwyr Ifanc yr Amgylchedd yn agored i bob person ifanc yng Nghymru a bydd yn apelio at setiau sgiliau gwahanol. Mae tri chategori sef 11-14, 15-18 a 19-25 ac o fewn pob categori oedran, ceir tri chategori fformat fel a ganlyn: Ceisiadau ysgrifenedig heb fod yn fwy na 1,000 o eiriau a gallant gynnwys ffotograffau a darluniau Ceisiadau wedi eu ffilmio heb fod yn fwy na 3 munud o hyd ar arddull adroddiad newyddion yn ddymunol Ceisiadau ffotograffig sydd yn gorfod bod yn ffotograff unigol gyda theitl a disgrifiad byr heb fod yn fwy na 150 o eiriau Mewn ysgolion a cholegau, gellir cysylltu YRE i gwricwlwm llawer o bynciau fel Saesneg, Daearyddiaeth, Gwyddoniaeth, Ffotograffiaeth a’r Cyfryngau Creadigol ac mae’n gyfle ymarferol i bobl ifanc arddangos eu sgiliau naill ai yn unigol neu ar sail grŵp. Gall sefydliadau ieuenctid gydweithio ar weithgareddau ymarferol yn seiliedig ar brosiectau sydd yn arwain at geisiadau grŵp neu unigol. Gall myfyrwyr addysg bellach ac uwch greu gwaith o ansawdd i ychwanegu at bortffolios, a chyfrannu at waith cwrs a CVs. Bydd cefnogaeth ar weithredu YRE yn cael ei gynnig trwy weithdai a chynlluniau gwersi. Cofrestrwch eich diddordeb Help ag adnoddau About YRE Competition