CymraegParhewch â'ch gweithgareddau Eco-Sgolion Eco-Sgolion Adref Amdanom ni Pwy ydym ni Ein heffaith Ein tîm Manylion staff Ein Hymddiriedolwyr Ein Llysgenhadon Ein Prif Weithredwr Ein maniffesto Ein hanes Ein partneriaid Cysylltiadau rhyngwladol Swyddi gwag Ein gwaith Polisi ac ymchwil Problemau a’r hyn yr ydym yn ei wneud Arolygon Glendid Strydoedd Ein hymagwedd Gweithredu Cymundeol Arwyr Sbwriel Hybiau codi sbwriel Ymunwch a grŵp cymunedol Yswiriant grwpiau cymunedol Addysg Eco-Sgolion Eco-Academi Gohebyddion Ifanc (YRE) Ymgyrch Litter Less Gwobrau Y Faner Werdd ar gyfer Parciau Gwobrau Arfordir 'Goriad Gwyrdd Cadwraeth Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Y Goedwig Fechan Y Goedwig Hir Pysgodyn Melyn Ble rydym yn gweithio Newyddion & digwyddiadau Newyddion Digwyddiadau Ein gwasanaethau Ailgylchu TG Eco-Academi Y gwasanaethau eraill Mapio GIS Gwasanaethau amgylcheddol Cefnogwch ni Gwirfoddolwch gyda ni Rhoi Codi arian Lleihau llygredd plastig Cefnogwch ni wrth siopa Giveacar Y Goedwig Fechan Rydym yn llawn cyffro wrth blannu’r Coedwigoedd Bychain swyddogol cyntaf yng Nghymru! Beth yw Coedwig Fechan? Cwestiwn da! Mae Coedwig Fechan yn goetir cynhenid, trwychus tua maint cwrt tennis – mae pob un yn cynnwys tua 1,000 o goed. Y syniad yw atgynhyrchu coetir naturiol, gan ddefnyddio 25 coeden gynhenid wahanol. Byddwn yn plannu pum Coedwig Fechan cyntaf Cymru yn Chwefror 2021. Pam y mae Coedwigoedd Bychain yn bwysig? Peidiwch â chael eich twyllo gan eu maint – gall Coedwig Fechan gael effaith fawr. Gydag un mewn chwech o rywogaethau o dan fygythiad difodiant yng Nghymru, mae creu cynefinoedd newydd mewn ardaloedd trefol yn bwysicach nag erioed. Rydym yn dilyn dull arbennig o blannu y mae wedi ei brofi ei fod yn tyfu deg gwaith yn gyflymach, 30 gwaith yn fwy trwchus a 100% yn fwy bioamrywiol na choetir safonol, sydd newydd gael ei blannu. Rydym eisiau denu bywyd gwyllt, gwella ansawdd aer, dileu nwyon tŷ gwydr niweidiol o’r atmosffer a helpu i leihau llifogydd lleol. Bydd ein Coedwigoedd Bychain o fudd i bobl hefyd. Bydd ymwelwyr sydd yn defnyddio llwybrau ein coedwigoedd yn gallu cael awyr iach ac ailgysylltu â byd natur a bydd plant ysgol yn cael cyfle i ddysgu am fflora a ffawna lleol mewn ystafelloedd dosbarth awyr agored newydd. Ble mae’r Coedwigoedd Bychain yng Nghymru? Lleoliadau’r pum Coedwig Fechan cyntaf yng Nghymru yw: Nantymoel, Pen-y-bont ar Ogwr Y Cae Chwarae, St Asaph Avenue, Bae Cinmel, Conwy Coed Bach Pendalar / Ysgol Pendalar, Gwynedd Pencoedtre, Gibbonsdown, Bro Morgannwg Bae Caerdydd Mae pob safle wedi cael ei ddewis yn ofalus i gael yr effaith orau posibl ar natur a chymunedau trefol. Pwy sydd yn gysylltiedig? Mae’n ymdrech tîm! Ariennir ein Coedwigoedd Bychain gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r Goedwig Genedlaethol ar gyfer Cymru. Mae ein coed i gyd wedi cael eu canfod trwy Coed Cadw ac rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag Earthwatch, y sefydliad sydd yn arwain mudiad Y Goedwig Fechan yn y DU. Hoffem ddiolch i’n holl bartneriaid am wneud hyn yn bosibl. Beth nesaf? Unwaith bydd y pum Coedwig Fechan cyntaf wedi cael eu creu, rydym yn gobeithio ymestyn y cynllun i drefi a dinasoedd eraill. Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf trwy ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol #TinyForestWales / #YGoedwigFechan Os hoffech ganfod mwy am Goedwigoedd Bychain yng Nghymru, cysylltwch â’r tîm. Ebost [email protected] Tiny Forest