Byddwch yn rhan o’r lanhau22 Mawrth - 23 Ebrill
Gwanwyn Glân Cymru
Ymunwch â Gwanwyn Glân Cymru a byddwch yn rhan o’r lanhau (22 Mawrth - 23 Ebrill)
Y gwanwyn hwn, rydym yn gofyn am eich cymorth i wella’r amgylchedd ar drothwy’r drws. Ein nod yw ysbrydoli miloedd o bobl i ymuno a chasglu a gwaredu sbwriel yn ddiogel o’n strydoedd, ein parciau a’n traethau, gan ailgylchu cymaint â phosibl.
Pam mae hyn yn bwysig?
Mae sbwriel nid yn unig yn difetha harddwch naturiol eich amgylchedd, ond mae hefyd yn bygwth bywyd gwyllt a morol. Cofnododd yr RSPCA dros 7,000 o ddigwyddiadau o anifeiliaid yn cael eu hanafu o ganlyniad i sbwriel y llynedd, a gwyddom fod 80% o sbwriel sydd yn y môr yn dod o’r tir.
Mae Gwanwyn Glân Cymru’n rhan o Wanwyn Glân Prydain Fawr. Yn 2018, daeth 371,556 o #ArwyrSbwriel ynghyd - er gwaetha’r tywydd eithafol - i gasglu sbwriel mewn 13,500 o ddigwyddiadau ar draws y DU.
Yn 2019, ein nod yw gwneud Gwanwyn Glân Cymru’n fwy ac yn well nag erioed! Felly, ymunwch â Gwanwyn Glân Cymru (22 Mawrth – 23 Ebrill 2019) wrth i ni sefyll gyda’n gilydd a datgan nad yw sbwriel yn dderbyniol.
Pages
Cynhaliwch digwyddiad eich hun i helpu wneud gwahaniaethRead more
Edrychwch ar ein map ac ymuno â digwyddiadRead more
Rydym yn galw ar ein holl Eco-Ysgolion i gymryd rhanRead more
Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i drefnu digwyddiad diogelRead more
Adnoddau i'ch helpu i weiddi am eich digwyddiadRead more
Dywedwch wrthym am eich digwyddiad a'r math o sbwriel a gasglwydRead more