CymraegParhewch â'ch gweithgareddau Eco-Sgolion Eco-Sgolion Adref Amdanom ni Pwy ydym ni Ein heffaith Ein tîm Manylion staff Ein Hymddiriedolwyr Ein Llysgenhadon Ein Prif Weithredwr Ein maniffesto Ein hanes Ein partneriaid Cysylltiadau rhyngwladol Swyddi gwag Ein gwaith Polisi ac ymchwil Problemau a’r hyn yr ydym yn ei wneud Arolygon Glendid Strydoedd Ein hymagwedd Gweithredu Cymundeol Hybiau codi sbwriel Ymunwch a grŵp cymunedol Yswiriant grwpiau cymunedol Addysg Eco-Sgolion Eco-Academi Gohebyddion Ifanc (YRE) Gwobrau Y Faner Werdd ar gyfer Parciau Gwobrau Arfordir 'Goriad Gwyrdd Cadwraeth Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Y Goedwig Hir Pysgodyn Melyn Ble rydym yn gweithio Newyddion & digwyddiadau Newyddion Digwyddiadau Ein gwasanaethau Rhwygo papur Ailgylchu TG Eco-Academi Y gwasanaethau eraill Mapio GIS Gwasanaethau amgylcheddol Cefnogwch ni Gwirfoddolwch gyda ni Rhoi Codi arian Lleihau llygredd plastig Cymorth busnes Cefnogwch ni wrth siopa Giveacar Parc Gwledig Margam ymysg deg man gwyrdd gorau’r DU Mae Parc Gwledig Margam yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi cael ei enwi fel un o hoff fannau gwyrdd y DU. Yn 2020, mae mwy o bobl nag erioed wedi dod i sylweddoli buddion ymweld â’n parciau a’n mannau gwyrdd. Felly, efallai nad yw’n syndod bod degau ar filoedd o bobl wedi cymryd rhan yn y bleidlais i ddod o hyd i ddeg safle gorau Gwobr y Faner Werdd. Cynllun Gwobr y Faner Werdd yw’r safon ansawdd rhyngwladol ar gyfer parciau a mannau gwyrdd ac eleni, cyflawnodd 2,061, y nifer uchaf erioed, y wobr yn y DU. Yn ystod mis Tachwedd, gwahoddwyd y cyhoedd i bleidleisio am eu hoff fan a gwnaeth dros 59,000 o bobl hynny. Dyma ddeg parc a man gwyrdd mwyaf poblogaidd Dewis y Bobl (yn nhrefn yr wyddor): Cassiobury Park, Watford Hollycroft Park, Hinckley Parc Margam, Castell-nedd Port Talbot Queen Elizabeth Olympic Park, Llundain Strathaven Park, South Lanarkshire Telford Town Park, Telford Wivenhoe Park Prifysgol Essex, Colchester Valentines Park, Ilford Victoria Park, Tower Hamlets Warley Woods, Smethwick Parc Gwledig Margam yw un o brif fannau gwyrdd Cymru, yn cynnwys Castell ac Orendy godigog Margam, gerddi addurnol a pharc ceirw, wedi ei osod mewn 900 erw o dir gwledig hyfryd. Mae wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd am yr wyth mlynedd diwethaf ac mae hefyd wedi cyflawni Achrediad Safle Treftadaeth Werdd. Dywedodd y Cynghorydd Peter Rees, Aelod o Gabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant: Mae hyn yn newyddion gwych i Barc Gwledig Margam. Mae’n anrhydedd mai dyma’r unig barc yng Nghymru i derbyn Gwobr Dewis y Bobl a bod yn un o ddeg yn unig yn y DU gyfan. Hoffwn ddiolch i holl staff a gwirfoddolwyr y parc sydd wedi gweithio’n ddiflino i gynnal a chadw tir y castell ar yr ystâd odidog hon ac mae eu cymorth yn amhrisiadwy. Mae Parc Gwledig Margam yn dirnod pwsig i’n trigolion lleol ac i ymwelwyr ac mae’r wobr hon yn dangos gymaint y mae pobl yn ei werthfawrogi. Hoffwn hefyd ddiolch o galon i bawb a bleidleisiodd dros Barc Gwledig Margam. Rydym yn cyflwyno’r cynllun Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Gwobr y Faner Werdd Cadwch Gymru’n Daclus: Mae nifer y bobl sydd wedi rhoi o’u hamser i bleidleisio dros eu hoff safle Baner Werdd yn dangos faint mae mannau gwyrdd o ansawdd uchel wedi cael eu gwerthfawrogi gan ein cymunedau eleni. I lawer ohonom, maent wedi bod yn hafan ar y stepen drws, o fudd i’n hiechyd a’n lles. Llongyfarchiadau i holl staff a gwirfoddolwyr Parc Gwledig Margan sydd wedi mynd y tu hwnt i’r gofyn i gynnal ei safonau rhagorol a’i wneud yn lle gwych i bobl ymweld ag ef. Gallwch roi eich parc neu fan gwyrdd chi ar y map trwy gymryd rhan hefyd. Ewch i’n tudalennau Gwobr y Faner Werdd am fwy o wybodaeth. Margam Country Park voted among UK’s top ten green spaces