CymraegParhewch â'ch gweithgareddau Eco-Sgolion Eco-Sgolion Adref Amdanom ni Pwy ydym ni Ein heffaith Ein tîm Manylion staff Ein Hymddiriedolwyr Ein Llysgenhadon Ein Prif Weithredwr Ein maniffesto Ein hanes Ein partneriaid Cysylltiadau rhyngwladol Swyddi gwag Ein gwaith Polisi ac ymchwil Problemau a’r hyn yr ydym yn ei wneud Arolygon Glendid Strydoedd Ein hymagwedd Gweithredu Cymundeol Arwyr Sbwriel Hybiau codi sbwriel Ymunwch a grŵp cymunedol Yswiriant grwpiau cymunedol Addysg Eco-Sgolion Eco-Academi Gohebyddion Ifanc (YRE) Ymgyrch Litter Less Gwobrau Y Faner Werdd ar gyfer Parciau Gwobrau Arfordir 'Goriad Gwyrdd Cadwraeth Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Y Goedwig Fechan Y Goedwig Hir Pysgodyn Melyn Ble rydym yn gweithio Newyddion & digwyddiadau Newyddion Digwyddiadau Ein gwasanaethau Ailgylchu TG Eco-Academi Y gwasanaethau eraill Mapio GIS Gwasanaethau amgylcheddol Cefnogwch ni Gwirfoddolwch gyda ni Rhoi Codi arian Lleihau llygredd plastig Cefnogwch ni wrth siopa Giveacar Dweud eich dweud am gynlluniau i wneud Cymru’n ddi-sbwriel a di-dipio Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn galw ar bawb i ‘chwarae eu rhan’ yn dileu sbwriel a thipio anghyfreithlon o ddinasoedd, moroedd a chefn gwlad Cymru. Ar ddydd Iau 28 Ionawr, lansiodd y Gweinidog ei chynllun newydd: ‘Cymru Ddi-sbwriel a Di-dipio’, sydd yn amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno eu syniadau eu hunain ynghylch sut i fynd i’r afael â’r broblem. Byddwn yn rhoi ein hymateb ein hunain i’r ymgynghoriad, ond rydym hefyd yn annog pawb yr ydym yn gweithio gyda nhw – ysgolion, grwpiau cymunedol, Arwyr Sbwriel a busnesau – i wneud yr un peth. Mae’n ddatblygiad cyffrous ac yn rhywbeth yr ydym wedi bod yn galw amdano ers 2015. Gobeithio bydd yn arwain at benderfyniadau polisi mentrus a chydweithio ar draws sectorau i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff. Mae rhai o’r gweithredoedd sydd wedi eu hamlinellu yn y cynllun newydd yn cynnwys: Gweithio gyda chynhyrchwyr a busnesau i ddod o hyd i ddewisiadau amgen cynaliadwy i eitemau plastig untro. Ysgogi busnesau i greu deunydd pecynnu mwy eco-gyfeillgar. Cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes i leihau sbwriel cynwysyddion diodydd. Gwella monitro ac adrodd am ddigwyddiadau o dipio anghyfreithlon, ar dir preifat a chyhoeddus. Gweithio gyda chymunedau a sefydliadau partner i fynd i’r afael â baw ci. Adolygu trefniadau gorfodi presennol, a chynyddu dirwyon; yn cynnwys archwilio sut gallai Cymru gyflwyno deddfwriaeth gyda chosbau llym i bobl sydd yn taflu sbwriel o gerbydau. Byddwn yn chwarae ein rhan gyda Caru Cymru – prosiect partneriaeth uchelgeisiol, newydd gydag Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru, gyda’r nod o annog cymunedau i weithredu i ddileu sbwriel o’n tirwedd. Cadwch lygad allan amdano! Gallwch gyflwyno eich sylwadau a’ch syniadau ar wefan Llywodraeth Cymru hyd at 22 Ebrill. Have your say on plans to make Wales litter and fly-tipping free