CymraegYmunwch â Caru Cymru - mudiad newydd i ddileu sbwriel a gwastraff Caru Cymru Amdanom ni Pwy ydym ni Ein heffaith Ein tîm Manylion staff Ein Hymddiriedolwyr Ein Llysgenhadon Ein Prif Weithredwr Ein maniffesto Ein hanes Ein partneriaid Cysylltiadau rhyngwladol Swyddi gwag Caru Cymru Gweithredu cymunedol Gwanwyn Glân Cymru 2021 Arwyr Sbwriel Hybiau codi sbwriel Ymunwch a grŵp cymunedol Yswiriant grwpiau cymunedol Polisi ac ymchwil Cymorth busnes Addysg Eco-Sgolion Gohebyddion Ifanc (YRE) Ymgyrch Litter Less Eco-Academi Gwobrau Y Faner Werdd ar gyfer Parciau Gwobrau Arfordir 'Goriad Gwyrdd Cadwraeth Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Y Goedwig Fechan Y Goedwig Hir Newyddion & digwyddiadau Newyddion Digwyddiadau Cefnogwch Gwirfoddolwch gyda ni Rhoi Codi arian Cefnogwch ni wrth siopa Giveacar Ailgylchu TG Y gwasanaethau eraill Mapio GIS Gwasanaethau amgylcheddol Diolch arbennig gan ein Prif Swyddog Gweithredol Dathlu ein gwirfoddolwyr anhygoel Dydd Sadwrn 5 Rhagfyr yw Diwrnod Gwirfoddolwyr Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig – adeg fyd-eang i ddiolch i’r gwirfoddolwyr ac i arddangos eu hymdrechion. Ac, wrth i ni ddod i ddiwedd blwyddyn anodd, mae thema ddewisol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer 2020, #Gyda’nGilyddGallwn yn sicr yn berthnasol. Ymysg yr holl ansicrwydd, ofn a rhwystredigaeth, cafwyd llygedyn o obaith a phositifrwydd yn ystod y pandemig. I mi, un elfen gadarnhaol oedd y teimlad cryf o gadernid ac ‘undod’. Nid yw’n syndod bod gwirfoddolwyr wedi bod wrth wraidd yr ymateb cadarnhaol hwn yng Nghymru. Ar draws y wlad, mae gwirfoddolwyr newydd a phresennol wedi camu i’r adwy i ofalu am eu cymdogion a’u cymunedau, gan ddangos ymrwymiad, trugaredd a chadernid anhygoel. Effaith ein gwirfoddolwyr Trwy gydol y pandemig, mae Gwirfoddolwyr Cadwch Gymru’n Daclus wedi parhau i godi sbwriel yn eu hardaloedd lleol, gan helpu i gadw mannau awyr agored yn lân ac yn ddiogel i ni gyd eu mwynhau. Mae’r niferoedd yn siarad drostynt eu hunain. Ers mis Mawrth, mae ein Harwyr Sbwriel, grwpiau cymunedol ac ymwelwyr â’r hyb wedi cysegru dros 14,000 o oriau i ofalu ar ôl ein hamgylchedd. Gyda’i gilydd, maent wedi casglu 17,000 o fagiau o sbwriel ac ailgylchu. Cawsom hefyd ein calonogi gan y gefnogaeth a dderbyniodd Hydref Glân Cymru. Er ei fod yn wahanol iawn i’n hymgyrchoedd arferol, cymerodd dros 1,100 o wirfoddolwyr ran mewn bron 200 o ymgyrchoedd glanhau gan gadw pellter cymdeithasol. Rydym yn llawn cyffro o wybod bod llawer o’r arwyr sbwriel a ymunodd yn gwirfoddoli gyda ni am y tro cyntaf erioed. Diolch - thank you Ar ran pawb yn Cadwch Gymru’n Daclus, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n gwirfoddolwyr – o newydd-ddyfodiaid glanhau i Arwyr Sbwriel cyfarwydd. Rydych i gyd wedi mynd y tu hwnt i’r gofynion eleni ac rydym yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth. Ymlaen i 2021, oherwydd #Gyda’nGilyddGallwn A special thank you from our CEO