CymraegYmunwch â Caru Cymru - mudiad newydd i ddileu sbwriel a gwastraff Caru Cymru Amdanom ni Pwy ydym ni Ein heffaith Ein tîm Manylion staff Ein Hymddiriedolwyr Ein Llysgenhadon Ein Prif Weithredwr Ein maniffesto Ein hanes Ein partneriaid Cysylltiadau rhyngwladol Swyddi gwag Caru Cymru Gweithredu cymunedol Gwanwyn Glân Cymru 2021 Arwyr Sbwriel Hybiau codi sbwriel Ymunwch a grŵp cymunedol Yswiriant grwpiau cymunedol Polisi ac ymchwil Cymorth busnes Addysg Eco-Sgolion Gohebyddion Ifanc (YRE) Ymgyrch Litter Less Eco-Academi Gwobrau Y Faner Werdd ar gyfer Parciau Gwobrau Arfordir 'Goriad Gwyrdd Cadwraeth Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Y Goedwig Fechan Y Goedwig Hir Newyddion & digwyddiadau Newyddion Digwyddiadau Cefnogwch Gwirfoddolwch gyda ni Rhoi Codi arian Cefnogwch ni wrth siopa Giveacar Ailgylchu TG Y gwasanaethau eraill Mapio GIS Gwasanaethau amgylcheddol Dathlu mannau gwyrdd anhygoel Mae 224 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru wedi cael Gwobr flaenllaw y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd. Maent yn cynnwys ystod amrywiol o safleoedd, o barciau gwledig a gerddi ffurfiol, i randiroedd, coetir a mynwentydd. Bellach ar ei drydydd degawd, mae Gwobr ryngwladol y Faner Werdd yn arwydd i’r cyhoedd bod gan barc neu fan gwyrdd y safonau amgylcheddol uchaf posibl, ei fod yn cael ei gynnal a’i gadw’n hardd a bod ganddo gyfleusterau rhagorol i ymwelwyr. Mae’r rheiny sydd yn ennill am y tro cyntaf yn cynnwys Fferm y Fforest a Pharc Hailey yng Nghaerdydd, Part Tredomas ym Merthyr Tudful, Gerddi Haulfre yng Nghonwy, Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog, a Ty Penallta yng Nghaerffili – tir cyntaf swyddfeydd y cyngor yng Nghymru i gael Gwobr y Faner Werdd. Mae gan Gymru dros draean o safleoedd cymunedol y Faner Werdd yn y DU o hyd, sydd yn cael eu cynnal a’u cadw a’u rhedeg gan wirfoddolwyr. Mae amrywiaeth o fannau gwyrdd wedi cyflawni Gwobr Gymunedol y Faner Werdd am y tro cyntaf, yn cynnwys perllan gymunedol Llandrindod, Parc Maerdy yn Sir Fynwy, a Gwarchodfa Natur Leol Comin Llangoed ac Aberlleiniog. Dywedodd Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Mae mannau gwyrdd yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles meddwl a thrwy gydol y pandemig rydym wedi gweld pa mor bwysig yw’r mannau hyn i gymunedau lleol. Mae gan Gymru dros draean o safleoedd cymunedol y Faner Werdd yn y DU o hyd ac mae’n wych gweld mwy o fannau yng Nghymru yn cael Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd. Mae gan y tirweddau hyn rôl hanfodol yn cyflwyno ecosystemau cyfoethog a chymunedau cydnerth, ac rwyf yn llongyfarch y safleoedd hyn i gyd am ddarparu cyfleusterau a digwyddiadau rhagorol drwy’r flwyddyn ar gyfer pobl yng Nghymru. Rydym yn cyflwyno rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gwirfoddolodd arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol eu hamser ar ddechrau’r hydref i feirniadu safleoedd ymgeiswyr yn erbyn wyth o feini prawf llym, yn cynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol. Mae naw safle wedi cael Achrediad Safle Treftadaeth Werdd eleni, yn cynnwys Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru, sydd newydd gael achrediad. Mae’r wobr arbennig hon, a ardystiwyd gan Cadw, yn cydnabod safleoedd sydd yn arwyddocaol yn hanesyddol ac yn bodloni meini prawf y Faner Werdd. Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus: Mae’r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd uchel i’n cymunedau. I lawer ohonom, maent wedi bod yn hafan ar stepen y drws ac o fudd i’n iechyd a’n lles. Mae’r 224 o faneri sydd yn hedfan eleni yn dystiolaeth o waith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol o dan amgylchiadau heriol iawn. Hoffwn eu llongyfarch a diolch iddynt i gyd am eu hymrwymiad eithriadol. Edrychwch ar eich map Mae rhestr lawn o’r gwobrau ar gael yma Gallwch roi eich parc neu fan gwyrdd ar y map trwy gymryd rhan hefyd Celebrating amazing green spaces