Yn rhan o brosiect y Goedwig Hir mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar ac Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch Cymru, mae coridor gwyrdd mawr ar ffurf gwrychoedd yn cael ei blannu ar draws Ynys Môn er mwyn cynorthwyo’r boblogaeth werthfawr o wiwerod coch.

Yn rhan o gynllun mwy, tair blynedd o hyd, mae gwaith ar y gweill eisoes i greu cysylltiadau holl bwysig ar draws de-orllewin yr ynys. Mae un gwrych newydd wedi’i greu yng Nghoed Llwynonn, lle bu gwirfoddolwyr lleol y Goedwig Hir yn plannu 150m o wrychoedd gyda dros 600 o goed. Bydd hwn yn cysylltu â phont i wiwerod, y maent yn aros am ganiatâd cynllunio ar ei chyfer, a fydd yn helpu i sicrhau eu bod yn croesi’r A4080 yn ddiogel i gyrraedd y coed ym Mhlas Newydd. Yna ceir cyswllt uniongyrchol rhwng y coetir hwn a 400m o wrychoedd sy’n bodoli eisoes ac y mae gwirfoddolwyr y Goedwig Hir wrthi yn eu hadfer. Wedi i’r gwaith hwn gael ei gwblhau, bydd yn goridor i goetir arall ym Mhlas Newydd, a fydd yn cysylltu â phont arall i wiwerod yn ôl dros yr A4080 i goetir arall yng Nghoed Llwynonn.

Y nod yw cyfannu’r cylch y flwyddyn nesaf drwy blannu 200m yn rhagor o wrychoedd.

Datblygwyd prosiect y Goedwig Hir gan Cadwch Gymru’n Daclus mewn partneriaeth â Choed Cadw, gyda chefnogaeth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Sefydliad Esmee Fairbairn. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwrychoedd a’u defnydd, tynnu sylw at eu gwerth hanesyddol a chynnal arolygon o’u cyflwr.  

Mae’r prosiect yn gwneud gwaith ymarferol ledled Cymru, gan weithio gyda thirfeddianwyr a grwpiau cymunedol i helpu i reoli, gwella ac ymestyn gwrychoedd, drwy gyfrwng hyfforddiant a gweithredu gwirfoddol. Ynghyd, byddant yn plannu 100,000 o goed ac yn gwella tua 120,000m o wrychoedd. Mae’r prosiect hefyd yn bwriadu datblygu ap arolygu gwrychoedd a fydd yn creu cofnodion i dynnu sylw at gyflwr presennol gwrychoedd ledled Cymru.

Dr Craig Shuttleworth, Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch Cymru:

Mae plannu coed i gysylltu rhwng cynefinoedd coediog yn ffordd wych o helpu cyfoeth o fywyd gwyllt cynhenid, gan gynnwys y wiwer goch. Mae gan Ynys Môn un o boblogaethau gwiwerod pwysicaf y DU ac mae’n wych gweld cynifer o wirfoddolwyr a thirfeddianwyr yn cefnogi prosiect y Goedwig Hir.

Bydd gwaith plannu yn digwydd yn fuan hefyd yn RSPB Malltraeth, lle bydd dros 1,000 o goed yn cael eu defnyddio i lenwi bylchau mewn rhannau hir o’r gwrychoedd sy’n cryfhau’r gwrychoedd ar hyd gwaelod y warchodfa yn yr ardal darged rhwng Niwbwrch a Llangefni – un o gadarnleoedd yr wiwer goch.

Derek Perkins, gwirfoddolwr gyda’r Goedwig Hir ar Ynys Môn:

Yn wreiddiol, roeddwn i’n gwirfoddoli er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl i’r awyr agored a’r amgylchedd yr ydym yn eu mwynhau, ond mae’r gwaith ymarferol yn y coetiroedd wedi dechrau dod yn bwysig iawn imi, yn rhywbeth yr wyf yn edrych ymlaen yn arw ato: bondocio, plannu coed, gosod gwrychoedd. Rwy’n teimlo ei fod yn cyfrannu o ddifrif at les corfforol a phersonol. Mae’n rhoi boddhad mawr gallu gwneud cyfraniad parhaol.

Os ydych chi’n wirfoddolwr neu’n dirfeddiannwr ac eisiau cymryd rhan ym mhrosiect y Goedwig Hir, ewch i www.keepwalestidy.cymru/ygoedwighir am ragor o wybodaeth.

New green corridor for the red squirrels on Anglesey