Hygyrchedd Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwefan sydd yn hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf bosibl, waeth beth yw’r dechnoleg neu’r gallu. Rydym yn gweithio’n ddiwyd i gynyddu hygyrchedd a defnyddioldeb ein gwefan ac, wrth wneud hynny, yn glynu at gymaint o’r safonau a’r canllawiau sydd ar gael. Mae’r wefan hon yn ymdrechu i gydymffurfio â lefel A-Dwbl Consortiwm y We Fyd-eang W3C Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.0. Mae’r canllawiau hyn yn esbonio sut i wneud cynnwys y we yn fwy hygyrch i bobl ag anableddau. Bydd cydymffurfio â’r canllawiau hyn yn helpu i wneud y we yn haws i bawb ei defnyddio. Mae’r safle hwn wedi cael ei ddatblygu gan ddefnyddio côd sydd yn cydymffurfio â safonau W3C ar gyfer HTML a CSS. Mae’r safle yn arddangos yn gywir mewn porwyr cyfredol ac mae defnyddio safonau sydd yn cydymffurfio â chôd HTML/CSS yn golygu y bydd unrhyw borwyr yn y dyfodol yn ei arddangos yn gywir hefyd. Er ein bod yn ceisio cadw at y canllawiau derbyniol ar gyfer hygyrchedd a defnyddioldeb, nid yw bob amser yn bosibl gwneud hynny ar bob rhan o’r wefan. Rydym yn chwilio am atebion fydd yn gwneud pob rhan o’r safle yn hygyrch yn gyffredinol. Yn y cyfamser, os byddwch yn cael unrhyw anhawster yn cael mynediad i’n gwefan, cofiwch gysylltu â ni. Lle y bo’n bosibl, defnyddiwch borwr cyfredol Trwy ddefnyddio porwr cyfredol (y rhaglen y byddwch yn ei defnyddio i fynd i mewn i’r rhyngrwyd) byddwch yn cael mynediad i set llawer cyfoethocach o opsiynau i’ch cynorthwyo i fynd o amgylch y safle. Mae’r porwyr safonol yr ydym yn eu hargymell wedi eu nodi isod gyda dolenni ar gyfer gosod bob un ohonynt: FirefoxChromeSafari (MAC yn unig)Internet explorer Ar ôl eu gosod, bydd gan bob un ei ddetholiad ei hun o opsiynau hygyrchedd a allai alluogi opsiynau pellach trwy ddefnyddio ategion. Am fwy o fanylion gweler y dudalen Hygyrchedd ar gyfer bob un: Firefox Chrome Safari (Mac yn unig) Internet Explorer Opsiynau ar ein safle Arddull Amgen Dewiswch ddolen isod i newid ymddangosiad y safle. Ar ôl ei osod bydd y safle’n ymddangos fel hyn am hyd at 30 o ddiwrnodau nes eich bod yn dewis opsiwn gwahanol. Fersiwn du ar wyn Fersiwn gwyn ar ddu Arddull amgen Ailosod i arddull safonol Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod y safle’n edrych yn gywir gyda’r arddulliau newydd hyn ond oherwydd natur gyfnewidiol y safle a’i gynnwys, nid yw hyn bob amser yn bosibl. Os byddwch yn gweld rhywbeth nad yw’n edrych yn iawn rhowch wybod i ni Llwybrau Byr Bysellfwrdd / Allweddi Mynediad Mae porwyr gwahanol yn defnyddio trawiadau bysellau gwahanol i weithredu llwybrau byr allwedd mynediad, fel y nodir isod: Alt + [yr allwedd mynediad] Internet Explorer for Windows Chrome for Windows (Nid oes angen Shift mewn rhai amgylchiadau) Safari for Windows Shift + Alt + [yr allwedd mynediad] Firefox for Windows Ctrl + Option + [yr allwedd mynediad] Safari for Mac Chrome for Mac Firefox for Mac Allwedd Mynediad = 1, mynd â chi yn ôl i’r hafan Allwedd Mynediad = 2, mynd heibio’r ddewislen lywio ar y safle Allwedd Mynediad = 3, mynd â chi i’r dudalen hygyrchedd hon Allwedd Mynediad = 0, mynd â chi i’r dudalen Cysylltu â Ni Opsiynau yn eich porwr Mae’r rhan fwyaf o borwyr modern i gyd yn rhannu’r offer hygyrchedd mwyaf cyffredin, dyma restr o nodweddion defnyddiol: Chwiliad Cynyddrannol Mae chwiliad cynyddrannol yn eich galluogi i chwilio tudalen ar y we yn gynyddol am air neu ymadrodd penodol ar dudalen. I alluogi hyn ar eich porwr, pwyswch ALT a’i ddal ac yna gwasgwch F. Bydd hyn yn agor blwch ar gyfer teipio eich chwiliad. Wrth i chi deipio, bydd yr atebion cyfatebol yn cael eu hamlygu ar y dudalen ar eich cyfer. Llywio Gofodol Bydd pwyso tab yn mynd â chi i bob un o’r eitemau y gallwch ryngweithio â nhw ar unrhyw dudalen. Bydd dal yr allwedd SHIFT ac yna pwyso tab yn mynd â chi i’r eitem flaenorol. Llywio Caret (Internet explorer a firefox yn unig) Yn lle defnyddio llygoden i ddewis testun a symud o amgylch o fewn tudalen ar y we, gallwch ddefnyddio allweddi llywio ar eich bysellfwrdd: Home, End, Page Up, Page Down a’r saethau. Mae’r nodwedd hon wedi ei henwi ar ôl y caret, neu’r cyrchwr, sy’n ymddangos pan fyddwch yn golygu dogfen. I droi’r nodwedd hon ymlaen, pwyswch yr allwedd F7 ar frig eich bysellfwrdd a dewiswch a ydych eisiau galluogi’r caret ar y tab yr ydych yn edrych arno neu bob tab. Bylchwr Bydd pwyso’r bylchwr ar y dudalen ar y we yn symud y dudalen yr ydych yn edrych arni i lawr i ran weledol nesaf y dudalen. Ffontiau testun Yn dibynnu ar eich porwr, gallwch newid bob ffont ar y safle i un sydd yn haws i’w darllen. Canllawiau yma: Newid Ffont yn FirefoxNewid Ffont yn ChromeNewid Ffont yn Explorer Chwyddo eich llun Gallwch weithredu teclyn chwyddo eich porwr trwy’r llwybrau byr hyn ar y bysellfwrdd Chwyddo yn FirefoxChwyddo yn ChromeChwyddo yn SafariChwyddo yn Explorer Opsiynau ar eich cyfrifiadur I chwyddo eich sgrin gyfrifiadurol gyfan Mae system weithredu Apple Mac a Windows yn cynnwys opsiynau i chwyddo’r llun ar eich sgrin WindowsMAC Gwneud i’ch cyfrifiadur ddarllen y safle ar lafar Adeiladwyd y wefan hon gyda darllenwyr sgrin mewn golwg. Bydd gan ddewislenni, lluniau a mewnbwn y tagiau a’r marciau cywir i ategu eich darllenwr sgrin dewisol. Rydym wedi profi gyda’r offer canlynol: Mae NVDA (Mynediad Anweladwy Pen Desg) yn ddarllenwr sgrin am ddim ar gyfer cyfrifiaduron sydd yn rhedeg ar system weithredu Windows. Gellir lawrlwytho’r fersiwn diweddaraf AM DDIM yma (ar y dudalen hon efallai gofynnir i chi am gyfraniad gwirfoddol, os nad ydych eisiau cyfrannu, cliciwch "peidio cyfrannu y tro hwn") Mae WAVE yn cael ei ddatblygu a’i ddarparu fel gwasanaeth cymunedol am ddim gan WebAIM. Fe’i lansiwyd yn wreiddiol yn 2001 ac mae WAVE wedi cael ei ddefnyddio i werthuso hygyrchedd miliynau o dudalennau gwe. Darllenwch fwy yma Mae Microsoft Windows Narrator ar gael yn y rhan fwyaf o fersiynau o Mircosoft Windows sy’n gweithredu systemau ac yn darllen testun ar y sgrin ar lafar ac yn disgrifio digwyddiadau fel negeseuon gwallau er mwyn i chi allu defnyddio eich cyfrifiadur heb sgrin arddangos. I ganfod mwy a sut i’w alluogi ar eich fersiwn chi, cliciwch yma JAWS, Job Access With Speech, yw darllenydd sgrin mwyaf poblogaidd y byd ac mae wedi ei ddatblygu ar gyfer defnyddwyr cyfrifiaduron y mae’r nam ar eu golwg yn eu hatal rhag gweld cynnwys y sgrin neu lywio gyda llygoden. Mae JAWS yn darparu cynnyrch llafar a Braille ar gyfer y cymwysiadau mwyaf poblogaidd ar eich cyfrifiadur. Mae hwn yn feddalwedd y TELIR amdani. I ganfod mwy ac i lawrlwytho’r feddalwedd, cliciwch yma Rheoli eich cyfrifiadur gyda’ch llais Mae systemau gweithredu Apple Mac a Windows yn darparu ffyrdd o reoli eich cyfrifiadur trwy gydnabod llais. Mae’r BBC yn darparu canllaw i gyfnewid ar gydnabod llais ar draws y fersiynau gwahanol ond mae’r gosodiadau yn wahanol eto os ydych yn defnyddio Apple OS X Yosemite. Mae meddalwedd cydnabod llais trydydd parti hefyd ar gael. I grynhoi Rydym wedi ymrwymo i roi mynediad i chi i’n hadnoddau mwyaf gwerthfawr. Os byddwch yn gweld unrhyw beth nad yw’n edrych yn iawn neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella ein gwasanaethau, rhowch wybod i ni.