CymraegParhewch â'ch gweithgareddau Eco-Sgolion Eco-Sgolion Adref Amdanom ni Pwy ydym ni Ein heffaith Ein tîm Manylion staff Ein Hymddiriedolwyr Ein Llysgenhadon Ein Prif Weithredwr Ein maniffesto Ein hanes Ein partneriaid Cysylltiadau rhyngwladol Swyddi gwag Ein gwaith Polisi ac ymchwil Problemau a’r hyn yr ydym yn ei wneud Arolygon Glendid Strydoedd Ein hymagwedd Gweithredu Cymundeol Hybiau codi sbwriel Ymunwch a grŵp cymunedol Yswiriant grwpiau cymunedol Addysg Eco-Sgolion Eco-Academi Gohebyddion Ifanc (YRE) Gwobrau Y Faner Werdd ar gyfer Parciau Gwobrau Arfordir 'Goriad Gwyrdd Cadwraeth Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Y Goedwig Hir Pysgodyn Melyn Ble rydym yn gweithio Newyddion & digwyddiadau Newyddion Digwyddiadau Ein gwasanaethau Rhwygo papur Ailgylchu TG Eco-Academi Y gwasanaethau eraill Mapio GIS Gwasanaethau amgylcheddol Cefnogwch ni Gwirfoddolwch gyda ni Rhoi Codi arian Lleihau llygredd plastig Cymorth busnes Cefnogwch ni wrth siopa Giveacar Sut i wneud cais am wobr Ariennir y rhaglen Eco-Sgolion gan Lywodraeth Cymru ac mae am ddim i ysgolion Awdurdod Lleol, ond mae'n ofynnol i Ysgolion Annibynnol gyfrannu at y cymorth y maent yn ei gael. Os ydych chi'n ysgol annibynnol, cysylltwch â [email protected] Mae tair lefel i’r cynllun gwobr Eco-Sgolion a gydnabyddir yn rhyngwladol. Efydd Mae’r Wobr Efydd yn cael ei hunanasesu ac mae’n canolbwyntio ar sefydlu’r broses Eco-Sgolion fel bod gan ysgol bopeth sydd ei angen i fynd i’r afael â’r gwaith y maent wedi ei gynllunio! Arian Mae’r Wobr Arian yn cael ei hunanasesu ac mae’n datblygu’r broses Eco-Sgolion a sefydlwyd yn y Wobr Efydd. Mae’n rhaid i’r gwaith hwn ddangos tystiolaeth o gynnydd tuag at y Faner Werdd. Y Faner Werdd Yn wahanol i wobrau Efydd ac Arian, nid yw’r Faner Werdd yn cael ei hunanasesu. Bydd yr ysgol yn llenwi ffurflen gais a bydd Asesydd Eco-Sgolion yn ymweld â’ch ysgol i weld a ydych wedi bodloni’r meini prawf. Er mwyn cadw statws y Faner Werdd, bydd angen i ysgolion adnewyddu eu gwobr bob dwy flynedd. Mae ysgolion yn cyflawni statws Platinwm unwaith y maent wedi cael y Faner Werdd bedair gwaith – sydd yn dangos eu hymrwymiad hirdymor i addysg amgylcheddol, cyfranogiad myfyrwyr a chynaliadwyedd. Mae ein hysgolion Platinwm gyda’r gorau yn y byd ar y rhaglen Eco-Sgolion. Meini Prawf Dilyniadol Platinwm Os oes gennych dair baner werdd ar hyn o bryd ac yn paratoi i fynd am eich dyfarniad platinwm, mae'n yr un broses â baneri gwyrdd blaenorol ond gyda rhai meini prawf ychwanegol i'w hystyried. Meini Prawf Eco-Ysgol Platinwm I gael mwy o wybodaeth neu gefnogaeth gyda'r broses ymgeisio, cysylltwch â'ch Swyddog Eco-Ysgolion lleol a fydd yn hapus i helpu. Bob blwyddyn rydym yn gosod rhai heriau i Ysgolion Platinwm gymryd rhan ynddynt os dymunwch. Nid yw'r rhain yn orfodol ac fe'u cynlluniwyd i roi ysbrydoliaeth newydd i chi o ble y gallech fynd ar eich taith Eco-Sgolion. Heriau Platinwm 2019 Heriau Platinwm 2018 Heriau Platinwm 2017 Gallwch lenwi eich ffurflen gais ddiweddaraf ar-lein – mewngofnodwch yma Newydd i Eco-Sgolion? Cofrestrwch eich ysgol heddiw Eco-Schools awards