Canllawiau ymgeisio Sut mae’n gweithio Bydd ceisiadau ar gyfer Gwobrau Cymru Daclus 2017 ar agor tan ganol dydd ar 16 Hydref. Bydd pob cais Gwobr Cymru Daclus yn destun asesiad rhagarweiniol gan banel beirniadu Cadwch Gymru’n Daclus. Bydd rhestr fer o ymgeiswyr yn cael ei llunio o’r wybodaeth a ddarparwyd yn y ffurflen gais. Wedyn, bydd y tri yn y rownd derfynol i bob categori’n cael eu dewis gan banel beirniadu allanol ac yn cael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd 2017. Bydd pob un yn y rownd derfynol yn cael eu gwahodd i fynychu seremoni Gwobrau Cymru Daclus yng Nghaerdydd ar 20 Tachwedd lle bydd enillydd pob categori’n cael ei gyhoeddi. Ni chaiff y Gwobrau i Orsafoedd (Gorsaf wedi’i Staffio Orau Cymru a Gorsaf Heb ei Staffio Orau Cymru) eu beirniadu yn ôl cais ond trwy bleidlais gyhoeddus. Er mwyn pleidleisio am eich hoff orsaf, ewch i wefan Trenau Arriva Cymru Bydd enillwyr Gwobrau Cymru Daclus yn cael eu dewis ar sail asesiad yn erbyn y meini prawf cyfatebol. Y categorïau Dyma gategorïau Gwobrau Cymru Daclus: Gwobr Afonydd ac Arfordir Gwobr Dyfodol Cynaliadwy Gwobr Eco-Sgolion yn y Gymuned Gwobr 'Goriad Gwyrdd Gwobr Bioamrywiaeth Gwobr Cymunedau Glanach Gwobr Trawsnewid Cymuned Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn Gorsaf Heb ei Staffio Orau Cymru Gorsaf wedi’i Staffio Orau Cymru Y meini prawf Rhaid i’r HOLL enwebiadau fynd i’r afael â’r meini prawf sydd wedi’u gosod isod. Rhaid i’r ceisiadau fod yn seiliedig ar weithgareddau a gynhaliwyd rhwng mis Ebrill 2016 a mis Medi 2017. Tystiolaeth o welliant i’r amgylchedd Pa ardal a ddewiswyd a pham? Gwybodaeth am swm y sbwriel/baw ci/graffiti/rhywogaethau ymledol/deunydd eraill a symudwyd neu swm y gwastraff a ailddefnyddiwyd/ ailgylchwyd/ dargyfeiriwyd o’r safle tirlenwi Ymgeiswyr Gwobr 'Goriad Gwyrdd - cofiwch gynnwys gwybodaeth am yr holl arbedion amgylcheddol e.e. dŵr, ynni, gostyngiad yn y defnydd o gemegolion a gwelliannau amgylcheddol eraill Rhaid cyflenwi hefyd dystiolaeth o unrhyw fesurau ataliol a gwelliannau amgylcheddol eraill a wnaed (e.e. ailgylchu, cynefinoedd a gwelliannau i fynediad). Tystiolaeth o ystod y gweithgareddau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Tystiolaeth o nifer y gweithgareddau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Lle bo’n bosibl, rhowch dystiolaeth ffotograffig ‘cyn ac wedi’r gweithgaredd’. Dylid anfon hon at [email protected] Y bobl sydd ynghlwm Nifer y cyfranogwyr sydd ynghlwm e.e. gwirfoddolwyr, plant Nifer y gwahanol bartneriaid e.e. grwpiau, clybiau, sefydliadau a’u lefel ymwneud. Mantais gymunedol Mantais y prosiect i’r gymuned ehangach e.e. tymor hir neu effeithiau ‘uniongyrchol’ Adborth y gymuned leol Dangos sut mae’r prosiect wedi dod â’r gymuned at ei gilydd, wedi codi ysbryd y gymuned ac ati Dangos sut mae’r gwaith wedi codi sgiliau / magu hyder y cyfranogwyr Dangos sut mae’r gwaith wedi gwella iechyd a lles y cyfranogwyr. Parhad y prosiect Amserlen y prosiect o’r cam cynllunio i weithredu Dangos gwelliannau tymor hir / parhaus e.e. amledd eich sesiynau glanhau Wrth lenwi’r ffurflen gais, dylai pob cofnod ddarparu gwybodaeth ychwanegol hefyd i ddangos sut maen nhw’n bodloni gofynion penodol y categori maen nhw’n gwneud cais amdano. Ymgeisio Er mwyn gwneud cais am Wobrau Cymru Daclus 2017, llenwch y ffurflen gais syml hon Application guidance