Tyfu bwyd Expand Gadewch i ni eich helpu chi i gynllunio, adeiladu, cynaeafu, ymgysylltu’r gymuned ehangach yn ogystal â’ch helpu i ddod o hyd i gyllid, wedi’r cyfan, rydym eisiau helpu eich prosiect i fod yn gynaliadwy.
Rheoli mynediad Expand Gallwn helpu o’r cam cynllunio hyd at y cam ymarferol! Rydym wedi gweithio gydag awdurdodau lleol yng Nghymru ar glirio llwybrau troed, cynnal mynediad yn ogystal â gwella a monitro hawliau tramwy – cysylltwch am fwy o wybodaeth.
Rheoli mannau gwyrdd Expand Coetir, pyllau, perllannau – gallwn eich helpu chi i reoli eich mannau gwyrdd yn effeithiol.
Dileu rhywogaethau ymledol Expand Mae ein swyddogion arbenigol wedi cael hyfforddiant arbennig yn mynd i’r afael â rhywogaethau ymledol. Gallwn hyfforddi lle y bo’n briodol a’ch helpu chi i ddeall a rheoli rhywogaethau ymledol a gwella’r amgylchedd yn yr hirdymor.
Gweithgareddau amgylcheddol Expand Rydym yn darparu gweithgareddau amgylcheddol ar gyfer ystod o ddigwyddiadau – fydd o gymorth i chi gynyddu ymwybyddiaeth amgylcheddol ac ymgysylltu eich cynulleidfa mewn gweithgareddau hwyliog ac ecogyfeillgar a all helpu i hyrwyddo eich Cyfrifoldebau Cymdeithasol Corfforaethol.