Mathew Prosser Expand Mathew yw Rheolwr-gyfarwyddwr y DU yn DS Smith Recycling, is-adran o DS Smith Plc (cwmni FTSE 250). Yn flaenorol, gweithiodd yn P&O Transport, The Mirror Group, Cadbury’s, ac yn fwy diweddar fel Cyfarwyddwr yn Biffa PLC. Mae gan Mathew dros 30 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y sector amgylcheddol, ac mae’n awyddus i gefnogi cymunedau lleol a’u mentrau amgylcheddol. Mae ailgylchu a rheoli gwastraff yn ffactorau allweddol yn lleihau’r ôl-troed carbon a gwella perfformiad amgylcheddol, sy’n golygu ei fod mewn sefyllfa ddelfrydol i eirioli’r mantra lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu yn y sector busnes a chymunedol.
Dave King MBE Expand Mae Dave yn gyfrifydd cymwys gyda mwy na 30 o flynyddoedd o brofiad sector cyhoeddus mewn amrywiaeth o swyddi cyllid hyd at swydd Cyfarwyddwr Cyllid. Mae’n Gymrawd Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli, gydag MSc mewn Cyfrifyddu Elusennol o Ysgol Fusnes CASS. Ymunodd Dave â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn 2011, gan dderbyn swydd Trysorydd yn 2012. Mae Dave yn aelod sylfaenol o Grŵp Afonydd Caerdydd ac mae'n ymwneud â sawl prosiect cymunedol yng Nghaerdydd. Yn 2019 cafodd Dave MBE yn rhestrau Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines “am wasanaethau i’r amgylchedd”.
Ein Cadeirydd – Ed Evans Expand Mae Ed yn Gyfarwyddwr ar gyfer y Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil Cymru (CECA) sy'n cynrychioli sector contraction peirianneg sifil y wlad. Mae’n Beiriannydd Sifil Siartredig gyda thros 25 mlynedd o brofiad yn gyflenwi gwasanaethau technegol ar lefel uwch ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Yn 2011, cafodd ei benodi gan Lywodraeth Cymru i Fwrdd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae hefyd yn Gadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn Pedal Power, elusen leol sy’n hyrwyddo beicio ar gyfer plant ac oedolion anabl a hefyd yn bartner mewn busnes ffermio teuluol.
Stephen Williams Expand Mae Stephen wedi treulio dros 30 mlynedd mewn llywodraeth leol fel Rheolwr Parciau a Swyddog Gwerth Gorau, gan gynnal adolygiadau gwasanaeth ar gynnal a chadw tir, glanhau strydoedd, casglu sbwriel a phriffyrdd. Mae Stephen yn Ymddiriedolwr profiadol, wedi gweithio gyda nifer o elusennau yn cynnwys Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent. Fel ymddiriedolwr gydag elusennau gofal cymdeithasol iechyd, gweithredodd fel Cynghorydd Trydydd Sector yn ystod ymholiadau’r Llywodraeth yn 2012 a 2014 ac roedd yn aelod o Fwrdd Cynghori Cenedlaethol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn 2014/15.
Michelle Webber Expand Mae Michelle yn weithiwr amgylcheddol proffesiynol ag ymrwymiad oes i ddeall yr amgylchedd a chyfrannu at ei reoli mewn ffordd gynaliadwy. Wedi cael sawl swydd gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, gadawodd Michelle i wneud doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan ymchwilio i werthoedd economaidd ac amgyffrediad y cyhoedd o adnodd amgylcheddol. Yn 2008, daeth Michelle yn Arweinydd Tîm Cadwraeth a Chynaliadwyedd i awdurdod lleol. Mae ganddi ddiddordeb brwd ym manteision iechyd a lles yr amgylchedd a’r ffordd y mae amgylchedd o ansawdd uchel yn cefnogi ein heconomi.
Kay Zdzieblo Expand Mae Kay wedi ymddeol o fod yn athrawes ysgol uwchradd yn ddiweddar. Mae 40 mlynedd o addysgu gwyddoniaeth a materion amgylcheddol wedi rhoi profiad helaeth i Kay o addysg a fydd, mae’n gobeithio, yn cyfrannu at rôl Ymddiriedolwr Cadwch Gymru’n Daclus. Mae Kay wedi bod yn rhan weithredol o Eco-Sgolion ers y cychwyn ac mae wedi gweithredu i hybu Masnach Deg a Dysgu Byd-eang yn y sector cynradd ac uwchradd. Mae wedi bod yn eiriolwr addysg ieuenctid yn ymwneud â’r angen i ddiogelu eu hamgylchedd a chodi safonau gofal yr amgylchedd eu hunain ac o fewn eu meysydd dylanwad a chred y bydd ei gwasanaeth gyda Chadwch Gymru’n Daclus yn ei galluogi i barhau gyda’r gwaith hwn.
Andrew Smith Expand Mae Andrew yn Gyfarwyddwr Marchnata profiadol, gyda thros 25 mlynedd o brofiad mewn sectorau amrywiol nwyddau defnyddwyr. Yn ogystal â’i gymwysterau Marchnata, mae Andrew hefyd wedi graddio mewn Gwyddor Planhigion a Söoleg yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd, ac yn mwynhau rhoi ei brofiad ar waith i gadw ein hamgylchedd naturiol yn brydferth ar gyfer pawb. Mae Andrew hefyd yn gwirfoddoli i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Gŵyr, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, ac mae wrth ei fodd gyda bywyd awyr agored!
Lesley Babb Expand Ymunodd Lesley â’r Gwasanaeth Sifil yn 2000 ac mae wedi treulio ei gyrfa mewn amrywiaeth o rolau AD a Gwasanaethau Corfforaethol (yn cynnwys Rheolaeth Amgylcheddol) yn y Swyddfa Eiddo Deallusol a’r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (BEIS erbyn hyn). Mae’n Aelod Siartredig o’r Sefydliad Personél a Datblygiad ac mae ganddi brofiad ar draws nifer o arbenigeddau yn y proffesiwn AD. Mae Lesley ar hyn o bryd yn arwain y tîm Tâl, Gwobrwyo, Amrywiaeth a Chynhwysiant AD yn IPO. Mae’n angerddol am gynhwysiant ac mae’n hyrwyddwr ymwybyddiaeth a chymorth iechyd meddwl.
Chris Jones Expand Ar ôl gadael yr ysgol, hyfforddodd Chris fel dyn camera, gan deithio’r byd, yn gweithio i gwmnïau, corfforaethau a sianeli darlledu amrywiol, a chyflawni 28 mlynedd fel cyflwynydd y tywydd ar S4C. Ynghyd â hyn, mae gan Chris amserlen brysur yn cynnal seremonïau gwobrwyo, yn arwain a chadeirio cynadleddau ac arddangosfeydd, a digwyddiadau siarad cyhoeddus, yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn ogystal â chynnal sioe radio wythnosol ar Swansea Sound. Mae Chris hefyd yn gweithio mewn ysgolion a cholegau yn hybu entrepreneuriaeth a dechrau busnes. Mae Chris yn noddwr elusen cymorth canser y prostad yng Ngorllewin Cymru ac yn llysgennad i grŵp elusennol Prostate Cymru.
Martyn Woodfield Expand Mae Martyn wedi ymddeol yn ddiweddar ar ôl gyrfa dros 40 mlynedd yn y Diwydiant Gweithgynhyrchu. Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae wedi cael swyddi Uwch Reoli amrywiol yng nghanolfan Dechnegol Sony UK ym Mhencoed. Ers iddo ymddeol, mae wedi bod yn chwilio am heriau newydd lle gall ddefnyddio ei sgiliau a’i brofiad mewn prosiectau cadarnhaol yn y gymuned. Mae’n Ynad Heddwch, yn bysgotwr brwd sydd yn gysylltiedig ag elusen bysgota ac mae hefyd yn weithgar yn ei gymdogaeth yn codi sbwriel.