Lleihau sbwriel a gwastraff Expand Mae sbwriel yn cael effaith gymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd arwyddocaol a phellgyrhaeddol ar gymunedau. Ar hyn o bryd, Cymru yw’r unig wlad yn y DU heb Strategaeth Sbwriel er mai dyma’r mater ‘stepen drws’ sy’n cael ei drafod amlaf. Rydym o’r farn bod angen ymagwedd sydd yn canolbwyntio ar ataliaeth. Er bod cyfraddau ailgylchu presennol cartrefi wedi mynd y tu hwnt i’r targedau presennol, mae atal gwastraff wedi cael ei esgeuluso i raddau helaeth ac rydym o’r farn ei fod yn amser ar gyfer targedau yr un mor uchelgeisiol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer lleihau gwastraff yn gyffredinol, yn cynnwys cynlluniau a buddsoddiad ar gyfer trawsnewid i economi gylchol. Rydym eisiau i Lywodraeth nesaf Cymru: Ddatblygu a gweithredu Cynllun Atal Sbwriel integredig ar gyfer Cymru sydd yn mesur cynnydd yn flynyddol. Cyflwyno targedau lleihau gwastraff fydd yn datblygu ein huchelgais i fod yn wlad ‘Dim Gwastraff’ Parhau i ysgogi gostyngiad arwyddocaol yn y defnydd o blastigau untro Rhoi Cynllun Dychwelyd Ernes ‘cynhwysol’ ar waith, wedi ei ddylunio i gynyddu potensial economaidd Cymru Sicrhau bod mecanwaith cadarn ar gyfer Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr yn cael ei gyflwyno i gynnwys yr holl ddeunyddiau untro hyd at ddiwedd eu hoes, yn cynnwys cost taflu sbwriel. Er mwyn sicrhau ymhellach bod yr holl refeniw’n cael ei ddosbarthu’n gyfartal ar draws llywodraethau datganoledig. Creu ymagwedd gyson tuag at wastraff ac ailgylchu ar draws pob awdurdod lleol yn seiliedig ar arfer gorau a’i wneud mor hawdd â phosibl i bobl wneud y peth iawn.
Creu a diogelu ein mannau gwyrdd Expand Mae tystiolaeth aruthrol bod mannau gwyrdd hygyrch yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a chorfforol, fel cam ataliol ac fel triniaeth. Gyda chyfran cyllideb Llywodraeth Cymru sy’n cael ei gwario ar iechyd yn cynyddu bob blwyddyn, a chyda phroblemau iechyd meddwl yn costio £7.2 biliwn y flwyddyn ar gyfartaledd, mae’n dod yn gynyddol amlwg bod angen cyflwyno gwirfoddoli gwyrdd i ddarpariaeth iechyd prif ffrwd Cymru. Ond nid yn unig i ni mae mannau gwyrdd o fudd. Mae creu hafan fioamrywiol lle gall natur ffynnu yn bwydo i mewn i'r fenter fyd-eang ehangach i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd. Rydym eisiau i lywodraeth nesaf Cymru: Gefnogi creu gwasanaeth iechyd ‘naturiol’, gan osod gwirfoddoli gwyrdd mewn gofal iechyd prif ffrwd, gyda chymorth buddsoddiad hirdymor yn y sector cyhoeddus. Cyflwyno diogelwch cyfreithiol ar gyfer parciau a mannau gwyrdd cyhoeddus a chyflwyno dyletswydd statudol i reoli’r rhain i safon y Faner Werdd erbyn 2025. Cydnabod effaith costau ychwanegol ar gyfer cyrchfannau ymwelwyr ac ystyried cyflwyno ardoll ar lety / gwasanaethau ymwelwyr i gefnogi a hyrwyddo diogelu’r amgylchedd naturiol lleol. Ymrwymo i fuddsoddi mewn rhaglenni sy’n cyflwyno mannau gwyrdd hygyrch i bawb.
Grymuso pobl ifanc i ysgogi newid amgylcheddol cadarnhaol Expand Newid ymddiriedaeth trwy addysg yw un o’r buddsoddiadau pwysicaf y gallwn eu gwneud yn creu dyfodol mwy cynaliadwy a chydnerth. Bydd rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth i bobl ifanc i ysgogi newid amgylcheddol cadarnhaol nid yn unig yn eu grymuso i weithredu ond yn eu galluogi i ddylanwadu ar bobl eraill yn y gymuned ehangach. Rydym eisiau i Lywodraeth nesaf Cymru: Orfodi pob ysgol yng Nghymru i gael statws Baner Werth Eco-Sgolion i gefnogi uchelgais y cwricwlwm cenedlaethol newydd i bobl ifanc fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a’r byd. Darparu cymorth ariannu i sicrhau darpariaeth addas o adnoddau addysg a hyfforddiant ar yr argyfwng hinsawdd, fydd yn arwain at weithredu ar lefel leol. Sicrhau bod adnoddau ar gael ar gyfer llais ieuenctid yn ymwneud â’r argyfwng hinsawdd.