Ymunwch â Caru Cymru - mudiad newydd i ddileu sbwriel a gwastraff
Caru Cymru
Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ôl! Mae natur dan fygythiad ac mae'n bryd gweithredu.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi ailagor.
Y llynedd, cafodd mwy na 500 o fannau gwyrdd eu creu, adfer a gwella ledled y wlad. Cymerodd grwpiau cymunedol a sefydliadau o bob maint ran - o elusennau anabledd a grwpiau ieuenctid i fentrau cymdeithasol a grwpiau gofalwyr.
Nawr, mae gennym gannoedd yn rhagor o becynnau ar gael. Dyma eich cyfle i wyrdroi dirywiad natur a rhoi hwb pwysig i lesiant eich cymuned leol ar yr un pryd.
Rydym am ei gwneud hi mor rhwydd â phosibl i bobl gymryd rhan. Felly, rydym wedi dylunio dewis o becynnau wedi'u teilwra i grwpiau cymunedol a sefydliadau gwahanol.
Mae pob pecyn, y mae ei gost wedi'i thalu ymlaen llaw, yn cynnwys planhigion brodorol, offer a deunyddiau eraill. Byddwn yn ymdrin ag archebion a danfoniadau, a bydd ein swyddogion prosiect yn darparu cymorth ar lawr gwlad hyd yn oed.
Mae ein pecynnau yn perthyn i ddau gategori.
1. Pecynnau dechreuol i grwpiau cymunedol neu wirfoddol sy'n dymuno creu Gardd i Beillwyr, Gardd Ffrwythau a Pherlysiau, neu Ardd Drefol.
2. Pecynnau datblygu i sefydliadau cymunedol sy'n barod i ymgymryd â phrosiect mwy ac adeiladu Gardd Tyfu Bwyd neu Ardd Bywyd Gwyllt.
Cliciwch ar y blychau isod am fanylion llawn.
Mae'n broses ymgeisio syml. Dewiswch eich pecyn, darllenwch drwy'r canllawiau, a lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais.
Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu bob mis gan baneli grant y prosiect. Y dyddiad cau cyntaf yw hanner dydd ar ddydd Gwener 30 Ebrill. Y dyddiad cau nesaf yw hanner dydd ar 31 Mai, yna 30 Mehefin ac yn y blaen hyd nes y bydd pob pecyn wedi cael ei ddyrannu. Edrychwch ar #NôliNatur ar y cyfryngau cymdeithasol am yr holl newyddion diweddaraf.
Yn 2021-22, bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i brosiectau mewn ardaloedd difreintiedig, trefol nad oes ganddynt fynediad at natur neu sydd â mynediad cyfyngedig at natur. Rydym hefyd yn awyddus iawn i groesawu ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ledled Cymru.
Os oes angen cymorth gyda'ch cais arnoch, mae gennym dri chydlynydd rhanbarthol wrth law i'ch cefnogi chi drwy'r broses.
Cysylltu â'r tîm
Mae ein menter yn rhan o gronfa 'Lleoedd Lleol ar gyfer Natur' ehangach gwerth £5m gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i gaffael, adfer a gwella natur 'ar garreg eich drws'.
English Page
Rhowch hwb i natur drwy un o'n prosiectau gardd fach Read more
Gwnewch wahaniaeth ar raddfa fwy gyda gardd tyfu bwyd neu ardd bywyd gwyllt Read more