A fyddai eich disgyblion CA2 yn hoffi teithio i 2200 i ddod o hyd i’r eitemau a adawyd ar ôl nad oedd yn fioddiraddadwy? Sanau drewllyd, cartonau sudd afal efallai? Pwy fyddai’n meddwl y byddent yn dal yma mewn 200 mlynedd? Rydym o’r farn bod angen lleihau rhywfaint o wastraff.
Os gwyddoniaeth yw eich peth chi, ymunwch â’r Athro Plastic i ganfod yr hyn sy’n dda ac yn ddrwg mewn plastig.
Rydym wrth ein bodd gyda pharti, ydych chi? Bydd yr Hetiwr Gwallgof yn mynd â chi i barti brecwast ond yn gyntaf bydd yn rhaid i chi ganfod, o’r cynhwysion, beth fyddwch yn ei fwyta.
Mae’r modiwlau i gyd yn gysylltiedig â’r cwricwlwm cenedlaethol a pheidiwch anghofio y byddwch yn cael pedwar cynllun gwers ychwanegol i atgyfnerthu’r hyn a ddysgwyd ar gyfer pob un o’r testunau.
English category