CymraegParhewch â'ch gweithgareddau Eco-Sgolion Eco-Sgolion Adref Amdanom ni Pwy ydym ni Ein heffaith Ein tîm Manylion staff Ein Hymddiriedolwyr Ein Llysgenhadon Ein Prif Weithredwr Ein maniffesto Ein hanes Ein partneriaid Cysylltiadau rhyngwladol Swyddi gwag Ein gwaith Polisi ac ymchwil Problemau a’r hyn yr ydym yn ei wneud Arolygon Glendid Strydoedd Ein hymagwedd Gweithredu Cymundeol Arwyr Sbwriel Hybiau codi sbwriel Ymunwch a grŵp cymunedol Yswiriant grwpiau cymunedol Addysg Eco-Sgolion Eco-Academi Gohebyddion Ifanc (YRE) Ymgyrch Litter Less Gwobrau Y Faner Werdd ar gyfer Parciau Gwobrau Arfordir 'Goriad Gwyrdd Cadwraeth Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Y Goedwig Fechan Y Goedwig Hir Pysgodyn Melyn Ble rydym yn gweithio Newyddion & digwyddiadau Newyddion Digwyddiadau Ein gwasanaethau Ailgylchu TG Eco-Academi Y gwasanaethau eraill Mapio GIS Gwasanaethau amgylcheddol Cefnogwch ni Gwirfoddolwch gyda ni Rhoi Codi arian Lleihau llygredd plastig Cymorth busnes Cefnogwch ni wrth siopa Giveacar Ysbrydoliaeth Eco-Sgolion Cymru: Lleihau Gwastraff I ddechrau’r flwyddyn newydd, mae Eco-Sgolion Cymru yn canolbwyntio ar leihau gwastraff – un o’r wyth testun yn y rhaglen sydd wedi ei chynllunio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol. Mae tîm Eco-Sgolion Cymru yn gofyn i bob ysgol edrych yn ofalus ar y gwastraff y maent yn ei gynhyrchu a meddwl am weithredoedd penodol i leihau hyn. Mae monitro faint o wastraff y mae ysgol yn ei greu yn cymryd amser, ymdrech a chydweithrediad yr ysgol gyfan. Fodd bynnag, mae’r buddion yn werth chweil a gall eich ysgol wneud gwahaniaeth mawr yn amgylcheddol yn ogystal ag yn ariannol!! Bydd unrhyw adeilad neu amgylchedd lle mae pobl yn byw neu’n gweithio yn creu rhywfaint o wastraff, ac nid yw ysgolion yn eithriad. Er mwyn canfod y ffordd orau o leihau’r gwastraff y mae eich ysgol yn ei gynhyrchu, bydd angen i chi ystyried pob categori gwastraff yn ei dro a chanfod y ffordd orau o ymdrin â hynny. Un ffordd dda yw dilyn trefn. Ystyriwch ffyrdd o leihau’r math o wastraff yn gyntaf. Os na allwch ei leihau, a allwch ei ailddefnyddio? Yn olaf, os nad yw ailddefnyddio yn opsiwn, a ellir ailgylchu’r gwastraff? Mae enghreifftiau gwych o brosiectau lleihau gwastraff gan Eco-Sgolion ledled Cymru: Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd cyfrwng Cymraeg gyntaf Dinbych y Pysgod, Ysgol Hafan Y Môr, wedi cael dechrau da trwy leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu yn eu hysgol newydd. Mae’r disgyblion yn dysgu am wastraff trwy gasglu eitemau sydd fel arfer yn mynd i safleoedd tirlenwi ar gyfer y sefydliad elusennol ‘Pembrokeshire Care, Share and Give’. Mae plant a rhieni’n dod ag eitemau fel caniau dearogleuo, potiau coffi, codau llieiniau, pennau ysgrifennu, caeadon poteli a llawer mwy i gael eu hailgylchu a chodi arian i elusennau lleol Mae ysgol Gynradd Sirol Stepaside yn Sir Benfro wedi arbed £500 ar eu bil gwastraff ers dod yn ysgol Baner Werdd ac ailgylchu eu papur! Fe wnaeth Ysgol Gynradd Fairfield ym Mro Morgannwg ailgylchu cardiau Nadolig, ymchwilio i ddeunydd pecynnu bocsys bwyd, cynnwys y gymdeithas rhieni ac athrawon mewn arwerthiant gwisg ysgol o’r eiddo coll a defnyddio pwyntiau Eco gwyrdd i dargedu a gwobrwyo ailgylchu papur mewn dosbarthiadau. Canolbwyntiodd digwyddiadau’r Eco Bwyllgor Cenedlaethol ar Nod Byd-eang 12 y CU, defnydd a chynhyrchiant cyfrifol. Ymchwiliodd yr ysgolion a fynychodd y defnydd a’r galw am siwgr, effaith cynhyrchu siwgr ar yr amgylchedd, y mater o gaffael tir a’i effaith ar frodorion, colli cynefin a materion llygredd. Felly drosodd atoch CHI! Ymchwiliwch i’r hyn y mae eich ysgol yn ei wneud nawr a defnyddiwch y ffeithiau a’r ffigurau i ddatblygu gweithredoedd lleihau gwastraff. Gwnewch amser i drafod a rhannu gwybodaeth gyda’r ysgol gyfan. Efallai y gallech gysylltu ag Eco Ysgol arall? Gosodwch her ar gyfer 2017! Chwilio am gymorth a syniadau? Gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi adran lleihau gwastraff Adolygiad Amgylcheddol Eco-Sgolion Canfyddwch a yw eich Awdurdod Lleol yn cynnig gwasanaethau a allai gynorthwyo eich ysgol chi Edrychwch ar y sefydliad WRAP a dilynwch eu cyfrif Twitter - @WRAP_UK Am ffeithiau a syniadau gwych recycleforwales.org.uk a dilynwch eu cyfrif Twitter - @Recycle4Wales Edrychwch ar y POD ac ymunwch yn yr ymgyrch wythnos wastraff. Am gysylltiad byd-eang i Wastraff, archwiliwch Nodau Datblygu Cynaliadwy y CU, yn arbennig Nod 12 Rhowch wybod i ni beth rydych chi’n ei wneud i leihau eich gwastraff – dilynwch ni ar Twitter am syniadau a gwybodaeth a rhowch wybod i ni am eich gweithgareddau @EcoSchoolsWales Eco-Schools Wales inspiration: Waste Minimisation