Cymraeg

Traethau a marinas yn dathlu llwyddiant rhyngwladol

Gwobrau Arfordir Cymru

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cyhoeddi enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni – marc ansawdd rhyngwladol parc neu fan gwyrdd.  

Cafwyd cynnydd sylweddol yn nifer y safleoedd sydd wedi ennill y wobr yng Nghymru, gyda 161 o barciau a mannau gwyrdd yn bodloni’r safon uchel angenrheidiol i dderbyn Gwobr y Faner Werdd neu Wobr Gymunedol y Faner Werdd.

Eleni, mae cynllun Gwobr y Faner Werdd, a gyflenwir yng Nghymru gan Gadwch Gymru’n Daclus gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, yn 20 mlwydd oed.  Caiff ei beirniadu gan arbenigwyr mannau gwyrdd, sydd yn gwirfoddoli eu hamser i ymweld â safleoedd sy’n gwneud cais a’u hasesu yn erbyn wyth maen prawf llym, yn cynnwys safonau garddwriaethol, glendid, cynaliadwyedd a chyfranogiad cymunedol.

Heddiw, mae’r enillwyr yn ymuno â thros 1,600 o safleoedd Gwobr y Faner Werdd ar draws y DU, Gweriniaeth Iwerddon, yr Almaen, yr Iseldiroedd, yr Emiraethau Arab Unedig, Awstralia a Seland Newydd.

Dywedodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:

Rwy’n falch o weld cymaint o fannau gwyrdd yn cyrraedd safonau Gwobr y Faner Werdd. Mae’r Wobr yn helpu i sicrhau bod gan gymunedau fan gwyrdd o ansawdd uchel er mwyn profi a mwynhau'r awyr agored, sydd yn hanfodol i les ac ansawdd bywyd ein cymunedau yng Nghymru. Rwy’n llongyfarch yr holl barciau a’r mannau cymunedol sy’n darparu cyfleusterau a digwyddiadau rhagorol drwy’r flwyddyn i bawb yng Nghymru.

Ymysg y rheiny sy’n derbyn y wobr eleni mae Parc Cyfartha ym Merthyr Tudful, Coed Penllergaer yn Abertawe a Gardd Isel Traeth y Newry ar Ynys Môn.

Mae Caerdydd yn arwain y ffordd gyda 17o safleoedd Gwobr y Faner Werdd; yn cynnwys, am y tro cyntaf, Ynys Echni ac Amgueddfa Werin Sain Ffagan.

Mae nifer safleoedd Gwobr y Faner Werdd wedi mwy na dyblu ers y llynedd. Mae enillwyr y wobr hon yn dibynnu ar wirfoddolwyr i gynnal eu cyfleusterau rhagorol, ac yn cynnwys rhandir, coetir, gwarchodfeydd natur lleol a gerddi cymunedol.

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd i Gadwch Gymru’n Daclus:

Rydym yn falch iawn o fod unwaith eto’n dathlu’r flwyddyn orau erioed i gynllun Gwobr y Faner Werdd. Mae ein parciau a’n mannau gwyrdd yn chwarae rhan bwysig yn ein cymunedau, ond mae eu buddion yn cael eu cymryd yn ganiataol yn aml. Yn ogystal â rhoi hafan i fywyd gwyllt, gall cael man gwyrdd hygyrch, o ansawdd uchel gael effaith fawr ar ein hiechyd a’n lles, a’n heconomi leol.

Mae’r holl faneri eleni yn dyst i ymdrechion y staff a’r gwirfoddolwyr sydd yn gweithio’n ddiflino i gynnal safonau Gwobr y Faner Werdd.  Mae’r diolch iddyn nhw bod gennym gymaint o gyfleusterau rhagorol ar drothwy’r drws.

Welsh parks earn record number of awards