CymraegParhewch â'ch gweithgareddau Eco-Sgolion Eco-Sgolion Adref Amdanom ni Pwy ydym ni Ein heffaith Ein tîm Manylion staff Ein Hymddiriedolwyr Ein Llysgenhadon Ein Prif Weithredwr Ein maniffesto Ein hanes Ein partneriaid Cysylltiadau rhyngwladol Swyddi gwag Ein gwaith Polisi ac ymchwil Problemau a’r hyn yr ydym yn ei wneud Arolygon Glendid Strydoedd Ein hymagwedd Gweithredu Cymundeol Arwyr Sbwriel Hybiau codi sbwriel Ymunwch a grŵp cymunedol Yswiriant grwpiau cymunedol Addysg Eco-Sgolion Eco-Academi Gohebyddion Ifanc (YRE) Ymgyrch Litter Less Gwobrau Y Faner Werdd ar gyfer Parciau Gwobrau Arfordir 'Goriad Gwyrdd Cadwraeth Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Y Goedwig Fechan Y Goedwig Hir Pysgodyn Melyn Ble rydym yn gweithio Newyddion & digwyddiadau Newyddion Digwyddiadau Ein gwasanaethau Ailgylchu TG Eco-Academi Y gwasanaethau eraill Mapio GIS Gwasanaethau amgylcheddol Cefnogwch ni Gwirfoddolwch gyda ni Rhoi Codi arian Lleihau llygredd plastig Cefnogwch ni wrth siopa Giveacar Llwyddiant rhyngwladol i newyddiadurwyr ifanc Mae myfyrwyr o Ysgol Gynradd West Park, Porthcawl a Ysgol Clywedog yn Wrecsam wedi cyflawni llwyddiant byd-eang, gan ennill gwobrau cyntaf yng nghystadleuaeth ryngwladol Gohebwyr Ifanc dros yr Amgylchedd (YRE). Mae Ymgyrch Litter Less Gohebwyr Ifanc yr Amgylchedd yn gynllun newyddiaduraeth rhyngwladol a gynhelir gan Cadwch Gymru’n Daclus ar ran FEE (Sefydliad Addysg yr Amgylchedd). Mae’n grymuso pobl ifanc rhwng 11-25 i sefyll yn gadarn yn y frwydr fyd-eang yn erbyn sbwriel a chyfleu’r materion hyn trwy ysgrifennu, ffotograffiaeth a ffilm. Cymerodd mwy na 275,000 o fyfyrwyr o 45 gwlad ran yn y rhaglen YRE eleni, gan gyflwyno dros 16,000 o gofnodion newyddiadurol. Enillodd myfyrwyr blwyddyn chwech o Ysgol Gynradd West Park yn Porthcawl y gystadleuaeth erthygl ysgrifenedig (oed 11-14) ar ôl ymchwilio i sut mae Porthcawl yn ceisio datrys ei broblem blastig. Gwnaeth eu cyfweliadau â busnesau, gwleidyddion lleol a thrigolion argraff ar reithgor rhyngwladol YRE, a oedd yn cynnwys newyddiadurwyr proffesiynol a chynrychiolwyr FEE, UNESCO a Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig. Mae Ysgol Clywedog yn Wrecsam wedi cael cydnabyddiaeth arbennig yn y categori Cydweithredu Rhyngwladol, am eu prosiect ffilm ar y cyd gyda Colegio Enriquez Soler – ysgol ym Melilla ar arfordir gogledd-orllewinol Affrica. Gyda’i gilydd, archwiliodd y myfyrwyr broblem gwastraff plastig ar draws dau gyfandir a’r pethau y gallwn eu gwneud i’w atal, o’i ailgylchu i siopa’n ddi-blastig. Cafodd yr ysgolion eu cynnwys yng nghystadleuaeth ryngwladol YRE ar ôl sicrhau llwyddiant yng nghystadleuaeth genedlaethol mis Gorffennaf. Dywedodd Nicholas Brown, Pennaeth Daearyddiaeth Ysgol Clywedog, Wrecsam: Rydyn ni mor falch o'r disgyblion a fu'n rhan o'r prosiect hwn. Ar ddechrau'r prosiect, edrychodd ein myfyrwyr yn ôl ar enillydd cystadleuaeth 2019 ac roeddent yn amheus a allent wneud gwaith cystal, ond maent wedi profi iddynt eu hunain y gallant ei wneud yn llwyr, ac ennill! Enillir llwyddiant trwy waith caled ac nid yw'n dibynnu ar yr ardal y cawsoch eich geni. Mae ein myfyrwyr wedi cystadlu ar lwyfan y byd yn erbyn myfyrwyr o bob cefndir sy'n boost gwirioneddol i hyder ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y profiad hwn, a chydweithio â myfyrwyr tramor, yn eu rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer eu dyfodol. Rwy’n edrych ymlaen at ddod â phawb yn ôl at ei gilydd a chynllunio ein cais ar gyfer cystadleuaeth y flwyddyn nesaf. Rydym wedi datblygu perthynas gadarn gyda'r myfyrwyr yn Sbaen sy'n awyddus i barhau i weithio gyda ni, felly rwy'n gyffrous gweld beth allwn ei gyflawni nesaf. Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus: Hoffwn longyfarch Ysgol Clywedog a Ysgol West Park ar eu llwyddiant rhyngwladol. Dangosodd y myfyrwyr dalent newyddiadurol wych - gan fynd y tu hwnt i hynny i ddarganfod mwy am effeithiau dinistriol llygredd plastig ac agweddau pobl at gynaliadwyedd. Gyda'i gilydd fe wnaethant dynnu sylw at sut y gall newidiadau cadarnhaol ar lefel leol helpu i fynd i'r afael â phroblem fyd-eang. Am fwy o wybodaeth am raglen Gohebwyr Ifanc yr Amgylchedd, ewch i dudalen YRE Gohebwyr Ifanc yr Amgylchedd International success for young journalists