CymraegParhewch â'ch gweithgareddau Eco-Sgolion Eco-Sgolion Adref Amdanom ni Pwy ydym ni Ein heffaith Ein tîm Manylion staff Ein Hymddiriedolwyr Ein Llysgenhadon Ein Prif Weithredwr Ein maniffesto Ein hanes Ein partneriaid Cysylltiadau rhyngwladol Swyddi gwag Ein gwaith Polisi ac ymchwil Problemau a’r hyn yr ydym yn ei wneud Arolygon Glendid Strydoedd Ein hymagwedd Gweithredu Cymundeol Arwyr Sbwriel Hybiau codi sbwriel Ymunwch a grŵp cymunedol Yswiriant grwpiau cymunedol Addysg Eco-Sgolion Eco-Academi Gohebyddion Ifanc (YRE) Ymgyrch Litter Less Gwobrau Y Faner Werdd ar gyfer Parciau Gwobrau Arfordir 'Goriad Gwyrdd Cadwraeth Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Y Goedwig Fechan Y Goedwig Hir Pysgodyn Melyn Ble rydym yn gweithio Newyddion & digwyddiadau Newyddion Digwyddiadau Ein gwasanaethau Ailgylchu TG Eco-Academi Y gwasanaethau eraill Mapio GIS Gwasanaethau amgylcheddol Cefnogwch ni Gwirfoddolwch gyda ni Rhoi Codi arian Lleihau llygredd plastig Cymorth busnes Cefnogwch ni wrth siopa Giveacar Lefelau sbwriel ar ein strydoedd yn dal heb newid Mae adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd gan Cadwch Gymru’n Daclus yn dangos nad yw lefelau sbwriel a welir ar ein strydoedd wedi newid rhyw lawer ers y llynedd. Mae Adroddiad diweddaraf Cymru Gyfan - ‘Pa Mor Lân yw ein Strydoedd?’ yn rhoi ‘cipolwg’ ar sbwriel a materion eraill yn ymwneud ag ansawdd yr amgylchedd lleol. Mae’r adroddiad eleni’n amlygu presenoldeb plastigau y gellir eu hailgylchu sy’n cael eu taflu’n anghyfrifol ar ein strydoedd, yn cynnwys poteli diodydd a ganfuwyd ar 11.7% o’r strydoedd a arolygwyd. Mae prif ganlyniadau eraill ar gyfer 2017-18 yn cynnwys y canlynol: Sbwriel sy’n cael ei ollwng gan gerddwyr yw’r math mwyaf cyffredin o sbwriel o hyd Cofnodwyd sbwriel yn ymwneud â smygu ar 80.3% o strydoedd Cofnodwyd baw cŵn ar 8.6% o strydoedd – y ffigur isaf hyd yn hyn Mae melysion (54.1%) a sbwriel bwyd brys (18%) ar lefelau tebyg i’r llynedd Dywedodd Jemma Bere, Rheolwr Polisi ac Ymchwil i Cadwch Gymru’n Daclus: Ar ôl gweld arwyddion addawol y llynedd, mae’r adroddiad hwn yn dangos bod lefelau sbwriel wedi aros yn wastad. Fel gwlad, ni ddylem dderbyn hyn – mae angen i ni gyd gydnabod effeithiau pellgyrhaeddol gollwng sbwriel a gofalu am ein hamgylchedd gyda’n gilydd. Mae materion gwastraff a sbwriel wedi cael eu hamlygu’n sylweddol yn y cyfryngau dros y misoedd diwethaf, yn arbennig plastigau a deunydd pecynnu. Gall y rhain fynd i mewn i’n hamgylchedd morol ac achosi niwed sylweddol i ecosystemau yn ogystal ag effeithio’n negyddol ar ein cymunedau arfordirol agored i niwed. Amcangyfrifwyd bod tua 80% o falurion morol yn dod o ffynonellau ar y tir, sy’n golygu nad yw’r mater yn gyfyngedig i ardaloedd arfordirol. Mae cyfran fawr o sbwriel daearol yn mynd i mewn i ddyfrffyrdd ac afonydd, naill ai trwy waredu’n uniongyrchol neu trwy sbwriel sy’n cael ei gludo gan law, fflachlif neu lwybrau carthion a allai, yn y pen draw, fynd i mewn i’r cefnforoedd. Aeth Jemma ymlaen: Gall graddfa’r broblem olygu bod yr her o fynd i’r afael â sbwriel morol yn ymddangos yn llethol, ond eto mae sawl ffordd y gall pawb gymryd rhan yn mynd i’r afael â’r mater hwn. O unigolion, busnesau, ysgolion a llywodraethau, gwyddom y gall camau bach wneud gwahaniaeth mawr. Y cam cyntaf yw sicrhau ein bod i gyd yn gwaredu ein sbwriel yn gyfrifol. Bydd ‘Pa Mor Lân yw Ein Strydoedd?’, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei lansio mewn fforwm cenedlaethol o randdeiliaid awdurdod lleol fydd yn trafod yr heriau a’r atebion i rai o’r materion a amlygir yn yr adroddiad. Lawrlwytho’r adroddiad llawn yma Ydych chi eisiau helpu i wneud gwahaniaeth? Mae amser i gymryd rhan yn ymgyrch Gwanwyn Glân Cymru eleni o hyd. Levels of litter on our streets remain unchanged