Mae gan Westy’r Imperial yn Llandudno achrediad amgylcheddol y ‘Goriad Gwyrdd ers mis Chwefror 2016.    Mae’r gwesty pedair seren, gyda 98 o welyau yn hawlio safle amlwg ar bromenâd Llandudno ac mae wedi arwain y ffordd ers amser hir ynglŷn â materion cynaliadwyedd yn y gyrchfan.

Yn falch o fod wedi ystyried cynaliadwyedd ‘ymhell cyn ei fod yn y ffasiwn’, lluniodd Gwesty’r Imperial ei bolisi amgylcheddol cyntaf yn ôl yn 1998.  Yn ychwanegol at eu cyfrifoldebau at yr amgylchedd, gwnaethon nhw gydnabod y byddai ymwybyddiaeth ynglŷn â materion fel defnydd o ynni a dŵr yn gostwng eu biliau.   Mewn busnes o faint Gwesty’r Imperial, gall newidiadau bychain ymhobman greu arbedion mawr. 

Gyda chanolfan ffitrwydd a phwll nofio ar y safle, roedd eu defnydd o ddŵr bob amser am fod yn uchel, ond drwy fonitro yn ofalus a pharhaus, maen nhw wedi arbed swm sylweddol o arian drwy atal dŵr a oedd yn gollwng ac nid oedd unrhyw un wedi sylwi arno.

 

Nid yw’r busnes yn caniatáu ei statws rhestredig Graddfa II ei ddal yn ôl wrth iddyn nhw symud ymlaen.   Mae’n un o’r gwestai cyntaf yn y gyrchfan i gynnig pwynt gwefru trydan ar gyfer ceir, ac mae ganddyn nhw bwynt gwefru Tesla hefyd yn awr.

 

Dywedodd Geoff Lofthouse, Rheolwr Cyffredinol, Gwesty’r Imperial, Llandudno; 

Rydw i wrth fy modd fod Gwesty’r Imperial wedi derbyn y wobr amgylcheddol ryngwladol hon gan y ‘Goriad Gwyrdd,  mewn cydnabyddiaeth o’n cymwysterau gwyrdd, ac yn benodol oherwydd mai ni oedd y gwesty mawr cyntaf yng Ngogledd Cymru i ennill y statws hwn sydd wrth fodd calon.  Rydym wedi bod yn gweithio ar ein cynllun gweithredu gwyrdd cyn y mileniwm ac mae hyn yn parhau, er mwyn sicrhau bod agwedd gynaliadwy’r gwesty yn ddiguro.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth, ewch i wefan y Goriad Gwyrdd, sef:  www.greenkey.cymru