CymraegYmunwch â Caru Cymru - mudiad newydd i ddileu sbwriel a gwastraff Caru Cymru Amdanom ni Pwy ydym ni Ein heffaith Ein tîm Manylion staff Ein Hymddiriedolwyr Ein Llysgenhadon Ein Prif Weithredwr Ein maniffesto Ein hanes Ein partneriaid Cysylltiadau rhyngwladol Swyddi gwag Caru Cymru Gweithredu cymunedol Gwanwyn Glân Cymru 2021 Arwyr Sbwriel Hybiau codi sbwriel Ymunwch a grŵp cymunedol Yswiriant grwpiau cymunedol Polisi ac ymchwil Cymorth busnes Addysg Eco-Sgolion Gohebyddion Ifanc (YRE) Ymgyrch Litter Less Eco-Academi Gwobrau Y Faner Werdd ar gyfer Parciau Gwobrau Arfordir 'Goriad Gwyrdd Cadwraeth Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Y Goedwig Fechan Y Goedwig Hir Newyddion & digwyddiadau Newyddion Digwyddiadau Cefnogwch Gwirfoddolwch gyda ni Rhoi Codi arian Cefnogwch ni wrth siopa Giveacar Ailgylchu TG Y gwasanaethau eraill Mapio GIS Gwasanaethau amgylcheddol Dweud eich dweud am gynlluniau i wneud Cymru’n ddi-sbwriel a di-dipio Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn galw ar bawb i ‘chwarae eu rhan’ yn dileu sbwriel a thipio anghyfreithlon o ddinasoedd, moroedd a chefn gwlad Cymru. Ar ddydd Iau 28 Ionawr, lansiodd y Gweinidog ei chynllun newydd: ‘Cymru Ddi-sbwriel a Di-dipio’, sydd yn amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno eu syniadau eu hunain ynghylch sut i fynd i’r afael â’r broblem. Byddwn yn rhoi ein hymateb ein hunain i’r ymgynghoriad, ond rydym hefyd yn annog pawb yr ydym yn gweithio gyda nhw – ysgolion, grwpiau cymunedol, Arwyr Sbwriel a busnesau – i wneud yr un peth. Mae’n ddatblygiad cyffrous ac yn rhywbeth yr ydym wedi bod yn galw amdano ers 2015. Gobeithio bydd yn arwain at benderfyniadau polisi mentrus a chydweithio ar draws sectorau i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff. Mae rhai o’r gweithredoedd sydd wedi eu hamlinellu yn y cynllun newydd yn cynnwys: Gweithio gyda chynhyrchwyr a busnesau i ddod o hyd i ddewisiadau amgen cynaliadwy i eitemau plastig untro. Ysgogi busnesau i greu deunydd pecynnu mwy eco-gyfeillgar. Cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes i leihau sbwriel cynwysyddion diodydd. Gwella monitro ac adrodd am ddigwyddiadau o dipio anghyfreithlon, ar dir preifat a chyhoeddus. Gweithio gyda chymunedau a sefydliadau partner i fynd i’r afael â baw ci. Adolygu trefniadau gorfodi presennol, a chynyddu dirwyon; yn cynnwys archwilio sut gallai Cymru gyflwyno deddfwriaeth gyda chosbau llym i bobl sydd yn taflu sbwriel o gerbydau. Byddwn yn chwarae ein rhan gyda Caru Cymru – prosiect partneriaeth uchelgeisiol, newydd gydag Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru, gyda’r nod o annog cymunedau i weithredu i ddileu sbwriel o’n tirwedd. Cadwch lygad allan amdano! Gallwch gyflwyno eich sylwadau a’ch syniadau ar wefan Llywodraeth Cymru hyd at 22 Ebrill. Have your say on plans to make Wales litter and fly-tipping free