CymraegYmunwch â Caru Cymru - mudiad newydd i ddileu sbwriel a gwastraff Caru Cymru Amdanom ni Pwy ydym ni Ein heffaith Ein tîm Manylion staff Ein Hymddiriedolwyr Ein Llysgenhadon Ein Prif Weithredwr Ein maniffesto Ein hanes Ein partneriaid Cysylltiadau rhyngwladol Swyddi gwag Caru Cymru Gweithredu cymunedol Gwanwyn Glân Cymru 2021 Arwyr Sbwriel Hybiau codi sbwriel Ymunwch a grŵp cymunedol Yswiriant grwpiau cymunedol Polisi ac ymchwil Cymorth busnes Addysg Eco-Sgolion Gohebyddion Ifanc (YRE) Ymgyrch Litter Less Eco-Academi Gwobrau Y Faner Werdd ar gyfer Parciau Gwobrau Arfordir 'Goriad Gwyrdd Cadwraeth Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Y Goedwig Fechan Y Goedwig Hir Newyddion & digwyddiadau Newyddion Digwyddiadau Cefnogwch Gwirfoddolwch gyda ni Rhoi Codi arian Cefnogwch ni wrth siopa Giveacar Ailgylchu TG Y gwasanaethau eraill Mapio GIS Gwasanaethau amgylcheddol Coedwigoedd ysgol newydd yn creu cenhedlaeth o ‘warcheidwaid coed’ Rydym yn plannu 22 o goedwigoedd ysgol fel rhan o uchelgais Coedwig Genedlaethol Cymru. Mae 400 o goed cynhenid yn cael eu plannu ar safle pob Eco-Ysgol, gan greu coedwrych, perthlys neu goetir bach ym mhob awdurdod lleol. Er nad yw wedi bod yn bosibl cynnwys disgyblion yn y gwaith plannu, pan fydd y cyfyngiadau yn caniatáu, bydd ganddynt gyfle i dorchi llewys a gofalu ar ôl y coed wrth iddynt dyfu a ffynnu. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru. Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cynorthwyo Cadwch Gymru’n Daclus gyda’u gwaith plannu mewn prosiectau Eco-Sgolion ar draws Cymru, trwy ein cynlluniau ar gyfer y Goedwig Genedlaethol. Wrth i ni geisio gwneud Cymru yn genedl wyrddach a thecach, gan barhau â’n nod o fod yn genedl carbon sero-net erbyn 2050, mae’n hanfodol bod plant yn cael y cyfle i ddysgu am bwysigrwydd coed a choetir, a’u heffaith fuddiol hollbwysig ar ein hamgylchedd. Er bod y cyfyngiadau oherwydd pandemig Covid-19 wedi golygu nad yw disgyblion wedi gallu cymryd rhan yn y gwaith plannu, rwy’n siŵr y byddant yn manteisio ar bob cyfle i ofalu ar ôl eu coetir newydd, a hoffwn ddiolch i Cadwch Gymru’n Daclus am eu gwaith yn plannu’r coed a’r coedwrych hyn. Mae pecyn i athrawon wedi cael ei greu fel rhan o’r prosiect, yn llawn gweithgareddau ar gyfer yr ystafell ddosbarth ac ar gyfer dysgu gartref, wedi eu dylunio i helpu pobl ifanc i ddeall gwerth coed. Mae’r adnoddau ar gael i bob ysgol yn rhad ac am ddim ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus. Pecyn gweithgareddau athrawon Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus: Rydym yn falch o gefnogi datblygiad Coedwig Genedlaethol Cymru gyda’r prosiect Eco-Sgolion cyffrous hwn. Rydym eisiau sicrhau bod pobl ifanc yn cydnabod pa mor wych yw coed a pha mor hanfodol ydynt i’n hamgylchedd. Trwy gynnwys myfyrwyr wrth ofalu am y coedwigoedd newydd hyn a darparu adnoddau yn rhad ac am ddim i bob ysgol, ein gobaith yw creu cenhedlaeth o ‘warcheidwaid coed’ sydd wedi ymrwymo i ofalu am goed a mannau gwyrdd a’u diogelu. Mae’r 22 o goedwigoedd newydd wedi eu lleoli yn / gerllaw yr ysgolion canlynol: Ysgol Gymuned Bryngwran, Ynys Môn Ysgol Gynradd Sofrydd, Blaenau Gwent Coleg Cymunedol Y Dderwen / Ysgol Gynradd Brynmenyn, Pen-y-bont ar Ogwr Ysgol Lewis i Ferched, Caerffili Ysgol Uwchradd Gatholig Mair Ddihalog, Caerdydd Ysgol Gyfyn Emlyn, Sir Gaerfyrddin Ysgol Bro Pedr, Ceredigion Ysgol Swn Y Don, Conwy Ysgol Gatholig Crist y Gair, Sir Ddinbych Ysgol Maes y Felin, Sir y Fflint Ysgol Glan Y Mor, Gwynedd Ysgol Gynradd Gymunedol Coed-y-dderwen, Merthyr Tudful Ysgol Gynradd Rogiet, Sir Fynwy Ysgol Bae Baglan, Castell-nedd Port Talbot Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, Casnewydd Ysgol Bro Gwaun, Sir Benfro Ysgol Calon Cymru, Powys Ysgol Gynradd Meisgyn, Rhondda Cynon Taf Ysgol Bishop Vaughn, Abertawe Ysgol Gynradd Pontnewydd, Torfaen Ysgol Gynradd Colcot, Bro Morgannwg Ysgol Rhosnesni, Wrecsam New school forests creating a generation of ‘tree guardians’