Ydych chi’n barod i droi man sydd wedi ei esgeuluso yn ardd fywiog lle gall natur ffynnu? P’un ai eich bod eisiau tyfu ffrwythau a llysiau, creu hyb cymunedol gwyrdd, neu hybu bioamrywiaeth, dyma eich cyfle.
Mae ein pecynnau rhagdaledig yn amrywio o brosiectau gardd bach i berllannau a thrawsnewidiadau ar raddfa fawr. Mae pob un yn cynnwys llawer o blanhigion cynhenid, offer, adnoddau a deunyddiau eraill.
Byddwn yn trin yr archebion ac yn dosbarthu, a bydd ein swyddogion prosiect medrus yno i’ch helpu i osod eich gardd newydd.
Mae pob pecyn bellach wedi’i ddyrannu ar gyfer 2025-26. Fodd bynnag, mae croeso i chi wneud cais o hyd, ac os byddwch yn llwyddiannus, bydd eich cais yn cael ei roi ar ein rhestr wrth gefn ar gyfer Ebrill 2026.
Gall grwpiau a sefydliadau o bob math a maint wneud cais am Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau â chyfranogiad cymunedol, yn ogystal â’r rheiny mewn trefi, dinasoedd, ardaloedd difreintiedig a mannau heb lawer o fynediad i natur, os o gwbl. Rydym hefyd yn awyddus iawn i groesawu ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir ar draws Cymru.
Mae gwneud cais yn hawdd. Dewiswch eich pecyn, edrychwch ar y canllawiau, a llenwch y ffurflen ar-lein.
Ar gyfer grwpiau sy’n barod i ddechrau prosiect garddio bach
Ar gyfer sefydliadau cymunedol sydd yn barod i ymgymryd â phrosiect trawsnewid ar raddfa fwy
Ar gyfer grwpiau a sefydliadau ag uchelgais fawr a gofod mawr, gwag i’w drawsnewid
I gymunedau ac ysgolion dyfu perllan, yn llawn coed ffrwythau, bylbiau a blychau cynefin
Wedi ei greu i wella gerddi Lleoedd Lleol ar gyfer Natur presennol
Ariennir y fenter gan Lywodraeth Cymru, rhan o raglen ehangach ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru sydd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur ‘ar eich stepen drws’.